03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cylch Meithrin Newydd wedi Agor ei Ddrysau yn Nhredegar

Ddydd Llun 10 Mehefin agorodd Cylch Meithrin newydd sbon ei ddrysau am y tro cyntaf yn Nhredegar. Bydd y cylch sydd wedi’i leoli yn Neuadd Stocktonville ar agor i blant rhwng 2 a 5 oed a bydd y sesiynau’n cael eu cynnal rhwng 9.15yb tan11.00yb rhwng Dydd Llun a Dydd Mercher i ddechrau.

Mae’r syniad yn rhan o gynllun ‘Sefydlu a Symud’ (SAS) Mudiad Meithrin i sefydlu 40 Cylch Meithrin newydd (gyda Chylch Ti a Fi ynghlwm) erbyn 2021 mewn ardaloedd daearyddol o Gymru ble nad oes Cylch Meithrin yn bodoli.

Donna Griffiths o Goed Duon sydd wedi ei phenodi fel arweinydd Cylch Meithrin Tredegar. Yn fam i ddwy ferch ifanc mae ganddi 12 mlynedd o brofiad yn gweithio gyda phlant. Mae newydd gwblhau gradd BA (Anrhydedd) mewn Seicoleg Addysg ac ADY.

Donna Griffiths

Dywedodd Donna: “Rwy’n mwynhau gweithio yn y sector blynyddoedd cynnar ac edrychaf ymlaen at ddechrau fy rôl newydd fel arweinydd Cylch Meithrin Tredegar. Rwy’n mwynhau paratoi gweithgareddau creadigol y bydd y plant yn eu mwynhau bydd hefyd yn datblygu sgiliau’r plant yn barod ar gyfer yr ysgol.”

Mae’r cynllun yn deillio o ymateb Mudiad Meithrin i strategaeth iaith Llywodraeth Cymru, Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr, sy’n cydnabod pwysigrwydd a dylanwad y Blynyddoedd Cynnar i greu siaradwyr Cymraeg, ac sy’n cyd-fynd â’r weledigaeth o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Mae’r strategaeth iaith yn nodi y bydd yn cefnogi’r gwaith o “ehangu darpariaeth cyfrwng Cymraeg y blynyddoedd cynnar i 40 yn fwy o grwpiau meithrin erbyn 2021 er mwyn hwyluso dilyniant i addysg cyfrwng Cymraeg, a hynny er mwyn cyrraedd 150 yn fwy o grwpiau meithrin dros y degawd nesaf”.

Mae bron 2,000 aelod o staff yn gweithio mewn Cylchoedd Meithrin yng Nghymru. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf penodwyd mwy na 250 o Arweinwyr a Chynorthwywyr yn y Cylchoedd Meithrin hyn.

Dywedodd Leanne Marsh, Prif Weithredwr dros dro Mudiad Meithrin:

“Ein huchelgais yw galluogi pob plentyn i allu manteisio ar wasanaeth gofal plant ac addysg gynnar yn Gymraeg. Mae cryn nifer o fylchau daearyddol ar hyd a lled Cymru felly mae gweledigaeth ‘Cymraeg 2050’ yn galluogi’r Mudiad, ar y cyd â chymunedau ar lawr gwlad, i weithio tuag at y nod o ddiwallu’r angen a chreu’r galw am ofal ac addysg cyfrwng Cymraeg.”

%d bloggers like this: