03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyswllt Ffermio i gyflwyno negeseuon diogelwch fferm yn ymwneud â thractorau a pheiriannau i’r farchnad y gwanwyn hwn – ydych chi’n gwybod beth yw eich cyfrifoldebau cyfreithiol?

FFERMWYR, coedwigwyr, myfyrwyr, cyflogwyr, gweithwyr, aelodau’r teulu – os ydych chi’n dibynnu ar dractorau fferm, cerbydau pob tirwedd (ATV) a pheiriannau, eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod pob un sy’n gyrru ac yn defnyddio’r peiriannau wedi derbyn hyfforddiant ac yn gymwys i wneud eu gwaith. Mae’n rhaid i chi hefyd sicrhau bod pob cerbyd a pheiriant a ddefnyddir yn cael ei gynnal a’i gadw ac yn gyfreithlon! Os nad ydych yn gwneud hynny, gallech hefyd fod yn peryglu dyfodol eich busnes, gan fod cosbau llym ar gyfer y rhai sy’n methu â chydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol.

Dyma’r neges bwysig y bydd Cyswllt Ffermio yn ei gyfleu i’r diwydiant yn ystod y gwanwyn hwn mewn cyfres o arddangosiadau ymarferol byr mewn Sioe Deithiol Iechyd a Diogelwch Ffermio a gynhelir drwy’r dydd ym Marchnad y Trallwng (29 Ebrill); Marchnad Caerfyrddin (3 Mai) a Marchnad Dolgellau (10 Mai).

Mae’r digwyddiadau yn rhan o ymgyrch barhaus a lansiwyd y llynedd gan Bartneriaeth Diogelwch Fferm Cymru (WFSP), cydweithrediad rhwng yr holl randdeiliaid amaethyddol allweddol yng Nghymru, sy’n gweithio gyda’i gilydd i leihau ystadegau torcalonnus ynghylch marwolaethau ac anafiadau ar ffermydd yng Nghymru bob blwyddyn.

Bob blwyddyn, mae pobl sy’n ymwneud â’r diwydiant amaeth yn marw mewn damweiniau gyda thractorau, cerbydau pob tirwedd (ATV) a pheiriannau. Ceir hefyd nifer o anafiadau brawychus a all newid bywydau, gan gynnwys colli breichiau neu goesau, torri esgyrn neu ddamweiniau gwasgu. Ar gyfartaledd, mae 32 person yn marw ar ffermydd Prydain bob blwyddyn. Mae miloedd o achosion eraill neu ddamweiniau posibl, ond nid ydynt yn cael eu hadrodd bob amser. Mewn nifer o achosion, gall y ffermwyr eu hunain reoli rhai o’r risgiau mwyaf cyffredin drwy gynnal gwiriadau a gweithdrefnau diogelwch syml a sicrhau bod unigolion yn derbyn hyfforddiant priodol ar gyfer y tasgau maen nhw’n eu cyflawni.

Bydd Jimmy Hughes, un o hyfforddwyr ac aseswyr mwyaf blaengar Cymru, sy’n rhedeg busnes hyfforddi yng Nghanolbarth Cymru, yn mynychu pob un o’r digwyddiadau sioe deithiol. Bydd Mr Hughes yn egluro mai cerbydau sy’n symud neu’n troi drosodd yw un o’r prif beryglon sy’n arwain at farwolaeth ac anafiadau difrifol ar ffermydd ac yn dangos y camau a’r gweithdrefnau y gallwch eu rhoi ar waith i leihau’r peryglon hynny.

“Wrth fynd â’r sioe deithiol i farchnadoedd prysur, rydym ni’n ei gwneud yn haws i ffermwyr alw heibio i weld drostynt eu hunain yr hyn sy’n peri’r risgiau mwyaf,” meddai Mr Hughes.

Bydd Mr Hughes yn dangos sut i gynnal gwiriadau cynnal a chadw hanfodol mewn modd diogel, pan fo’r holl bŵer wedi cael ei ddiffodd, gan drafod y prif feysydd gweithredol gan gynnwys gorchudd ar gyfer PTO.

Bydd ymweld â’r sioe deithiol hefyd yn rhoi cyfle i chi siarad gydag aelod o Wasanaeth Cysylltwyr Ffermio Llywodraeth Cymru; swyddog datblygu Cyswllt Ffermio ac un o fentoriaid ‘iechyd a diogelwch’ cymeradwy Cyswllt Ffermio, sy’n darparu hyd at 22.5 awr o arweiniad cyfrinachol wedi’i ariannu’n llawn ar y fferm. Bydd pob un ohonynt yn rhoi cyngor gwerthfawr a thaflenni am ddim, gan gynnwys llyfryn ‘What a good farm looks like’ a gyhoeddwyd gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, yn trafod sut allwch chi wneud eich busnes diwydiannau’r tir yn lle mwy diogel i weithio a sicrhau eich bod yn cydymffurfio â’r gyfraith.

Dywed Einir Davies, rheolwr datblygu a mentora gyda Menter a Busnes, sy’n darparu Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru, fod Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru a Cyswllt Ffermio yn benderfynol o gefnogi’r diwydiant a cheisio cynorthwyo ffermwyr i gymryd camau cadarnhaol i adnabod a lleihau’r risgiau mwyaf cyffredin.

“Mae’r rhan fwyaf o ffermwyr yn ymwybodol eu bod yn torri corneli o bryd i’w gilydd ac nad ydynt bob amser yn dilyn y gweithdrefnau iawn, yn enwedig pan fyddant yn gweithio ar eu pen eu hunain neu dan bwysau, felly rydym ni’n eich annog i fanteisio ar yr holl wybodaeth, arweiniad a hyfforddiant sydd ar gael – gallai achub eich bywyd chi neu rywun sy’n agos atoch,” meddai Ms Davies.

Gall ffermwyr cymwys sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio ymgeisio am ystod eang o gyrsiau hyfforddiant ar nifer o wahanol agweddau o ddiogelwch fferm yn ystod y cyfnod ymgeisio nesaf ar gyfer sgiliau, sydd ar agor am gyfnod estynedig rhwng 9am dydd Llun, 6 Mai a 5pm dydd Gwener, 28 Mehefin.  Mae pob un o’r cyrsiau hyfforddiant wedi’u hariannu hyd at 80% ac mae’r pynciau’n cynnwys gweithio ar uchder; cymorth cyntaf yn y gweithle; defnyddio plaladdwyr mewn modd diogel; tryciau codi telesgopig; gyrru tractorau a cherbydau pob tirwedd; cynnal a chadw a defnyddio llif gadwyn; cwympo a phrosesu coed; defnyddio peiriannau malu coed ayb.

Gallwch hefyd gwblhau modiwl e-ddysgu wedi’i ariannu’n llawn yn ymwneud ag Iechyd a Diogelwch, sy’n ofynnol os ydych chi’n dymuno ymgeisio ar gyfer unrhyw gyrsiau Cyswllt Ffermio ar gyfer defnyddio peiriannau. Am ragor o fanylion ynglŷn â’r cyrsiau hyfforddiant; rhestr lawn o’r darparwyr hyfforddiant cymeradwy; opsiynau e-ddysgu ac i lawr lwytho’r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â diogelwch fferm, ewch i www.llyw.cymru/cyswlltffermio.

Am gyngor cynhwysfawr ynglŷn ag iechyd a diogelwch ar y fferm, ewch i:

www.hse/gov.uk/agriculture neu www.yellowwellies.org 

 Nodyn i’r golygydd:

 Llun: Mae mentor Cyswllt Ffermio, Glyn Davies, yn awyddus i rannu ei wybodaeth â busnesau fferm eraill er mwyn ceisio gwneud ffermydd Cymru yn fwy diogel a lleihau risg damweiniau.

%d bloggers like this: