03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Dewis eich gwasanaethau iechyd y Pasg hwn

MAE meddygon a nyrsys yn annog pobl leol i ychwanegu iechyd at eu rhestr ar gyfer y Pasg.

Mae staff ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, yn atgoffa pobl o’r angen i feddwl yn gynnar am bresgripsiynau amlroddadwy, ac oriau agor meddygfeydd a fferyllfeydd cymunedol wrth i ni nesáu at Wyliau’r Pasg. Gall wneud dewis doeth pan fyddwch angen cyngor neu gymorth iechyd – drwy ddefnyddio Galw Iechyd Cymru neu ymweld â’ch fferyllfa – gael effaith gadarnhaol iawn ar Adrannau Achosion Brys sy’n brysur yn ystod cyfnodau gwyliau.

Dywedodd Mr Jeremy Williams, Ymgynghorwr Achosion Brys ac Arweinydd Clinigol ar gyfer Gofal heb ei Drefnu: “Y ffordd orau y gall y cyhoedd helpu ein staff rheng flaen, a sicrhau eu bod nhw a’u teuluoedd yn cael eu gweld yn gyflym, yw defnyddio gwasanaethau iechyd eraill a chadw ein Adrannau Achosion Brys ar gyfer sefyllfaoedd difrifol neu sy’n bygwth bywyd. Yn y pen draw mae hyn yn ein helpu i achub bywydau.”

Gall y canllawiau Dewis Doeth hefyd helpu pobl i ddewis y gwasanaethau iechyd cywir er mwyn diwallu eu hanghenion iechyd unigol eu hunain – ac i sicrhau bod y gwasanaethau brys ar gael pan fydd arnom eu hangen fwyaf. Er enghraifft, a wyddech chi fod eich Fferyllydd lleol yn gallu rhoi cyngor, cymorth a thriniaeth gyfrinachol i chi ar gyfer amrywiaeth o fân anhwylderau, yn ogystal ag unrhyw feddyginiaeth frys a allai fod arnoch ei hangen, a hynny’n rhad ac am ddim a heb orfod gwneud apwyntiad? Mae’r rhestr o fân anhwylderau i’w gweld yn http://www.hywelddahb.wales.nhs.uk/communitypharmacy

Mae rhai fferyllfeydd cymunedol yn cynnig gwasanaeth Brysbennu a Thrin hefyd, a hynny i’ch helpu os byddwch wedi cael anaf lefel isel. Bydd hyn yn arbed ymweliad â’r meddyg neu adran damweiniau ac achosion brys yr ysbyty. Mae’r mathau o fân anafiadau y gellir eu trin yn y fferyllfa o dan y gwasanaeth hwn, a hynny heb apwyntiad, yn cynnwys mân grafiadau, toriadau a chlwyfau arwynebol, ysigiadau a streifiadau, cwynion am y llygaid, er enghraifft tywod yn y llygaid, tynnu eitemau o’r croen, er enghraifft fflawiau, a mân losgiadau. Erbyn hyn mae 6 Chanolfan Galw i Mewn Fferyllol wedi’u lleoli ledled Hywel Dda sy’n cynnig ystod eang o wasanaethau.

Mae rhagor o wybodaeth i’w chael ar y wefan, lle mae rhif ffôn symudol ac ap rhad ac am ddim ar gael, sy’n darparu cyfleuster meddygon teulu er mwyn dod o hyd i’r gwasanaethau sydd agosaf atoch, yn ogystal â thaflenni gwybodaeth â rhifau cyswllt lleol www.hywelddahb.wales.nhs.uk/choosewell

Gallwch hefyd argraffu’r rhestr ddefnyddiol hon o amserau agor y fferyllfeydd lleol dros y Gwyliau Banc: http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/862/tudalen/56476 Mae Meddygon teulu yn cynghori eich bod yn cyflwyno eich presgripsiynau mlroddadwy cyn gynted â phosibl er mwyn osgoi unrhyw oedi.

Ychwanegodd Dr Sion James, Meddyg Teulu ym Meddygfa Tregaron ac Arweinydd Meddygon Teulu Gogledd Ceredigion: “Mae’n bwysig bod yn barod a threfnus gyda’ch meddyginiaethau bob amser ond yn enwedig wrth agosáu at Wyl y Banc. Mae llawer o wasanaethau ar gael os oes gennych broblem frys pan fydd eich meddygfa ar gau, gan gynnwys gwasanaeth Tu Allan i Oriau Meddyg Teulu yn ystod y dydd a’r nôs.”

Os ydych chi’n sâl ac angen cysylltu â meddyg teulu y tu allan i oriau neu Galw Iechyd Cymru deialwch 111.

Os bydd arnoch angen gofal deintyddol brys dros gyfnod y Pasg, gallwch gysylltu â’ch deintyddfa i gael cyngor a gofal. Os na fydd gennych fynediad i ddeintyddfa, cysylltwch â Galw Iechyd Cymru ar 111, lle bydd apwyntiad yn gallu cael ei drefnu ar eich cyfer, os bydd angen.

I gael gofal cymdeithasol brys y tu allan i oriau, cysylltwch â’r canlynol:
Sir Gaerfyrddin – 01558 824283
Ceredigion – 0845 6015392
Sir Benfro – 08708 509508

Os byddwch y pryderu ynghylch sut yr ydych yn teimlo neu’n ymddwyn, neu os byddwch yn brwydro i ymdopi ar eich pen eich hun, peidiwch â bod ofn gofyn am help. Siaradwch â’ch meddyg teulu, neu ffoniwch Llinell Gymorth Iechyd Meddwl C.A.L.L. ar 0800 132 737, tecstiwch ‘help’ i 81066 neu ewch i www.callhelpline.org.uk

Gallech hefyd edrych ar eich cwpwrdd moddion o flaen llaw i wneud yn siwr bod gennych gyflenwad da o feddyginiaethau dros y cownter sy’n ddefnyddiol i reoli cyflyrau yn y cartref. Dyma rai eitemau y dylech gadw mewn cwpwrdd sydd allan o gyrraedd plant:

• Meddyginiaeth lleddfu poen e.e. paracetamol

• Cymysgedd ail-hydradu

• Meddyginiaeth diffyg traul

• Plasteri

• Thermomedr

Mewn argyfwng neu sefyllfa sy’n bygwth bywyd, ffoniwch 999 a gofyn am ambiwlans. Os oes angen triniaeth na all aros ond nid yw’n achos brys ac nad ydych yn gwybod ble i fynd, cysylltwch â Galw Iechyd Cymru ar 111.

%d bloggers like this: