AM 9.15 fore Mercher 7 Awst bydd dros 200 o blant bach rhwng 2-5 oed o Gylchoedd Meithrin a Chylchoedd Ti a Fi Sir Conwy yn serennu yn y Pasiant Meithrin a berfformir ar lwyfan Pafiliwn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Llanrwst. Trefnir y Pasiant gan Mudiad Meithrin a bydd y perfformiad yn para tua 20 munud.
Mudiad Meithrin sy’n gyfrifol am gydlynu’r pasiant yn flynyddol ac eleni y teitl yw ‘Parti Dewin.’ Bydd cyfle i bawb ymuno yn y canu gan fynd ar daith ddychmygol o amgylch sir Conwy gyda’r plant i ddod o hyd i leoliad parti Dewin a Doti er mwyn dathlu pen-blwyddi cymeriadau unigryw Mudiad Meithrin yn 10 oed.
Meddai Iola Jones, Pennaeth Tîm Cyfathrebu a Phartneriaethau Mudiad Meithrin:
“Gan fod Dewin a Doti yn dathlu eu pen-blwyddi yn 10 oed eleni, ‘Dathlu’ yw’r thema sydd wedi treiddio trwy ein holl weithgareddau eleni. Dechreuwyd ar y dathliadau trwy gynnal Parti Piws Mwyaf y Byd ar 10 Ebrill pan gymerodd 12,856 o bobl ran trwy wisgo piws ar y diwrnod. Felly ‘Parti Dewin’ yw teitl y Pasiant Meithrin yn Eisteddfod Genedlaethol sir Conwy a fydd yn cael ei arwain gan Dilwyn Price – felly bydd yn siŵr o fod yn berfformiad byrlymus a hwyliog iawn!’
Dywedodd Nia Wyn Jones ac Elin Medi Hughes Swyddogion Cefnogi’r Mudiad sy’n gweithio yn Sir Conwy:
“Mae’r plant wrth eu boddau yn cymryd rhan, ac mi fydd yn brofiad bythgofiadwy iddyn nhw a’u teuluoedd i gael perfformio ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst. Mi fydd y Pasiant yn berfformiad bywiog a lliwgar ac yn ffordd wych o ddathlu addysg Gymraeg ar ei gorau gan blant bach ardal Sir Conwy.”
Bydd sawl Parti Piws yn cael ei gynnal i ddathlu’r pasiant yn uned Mudiad Meithrin wedi’r perfformiad. Yn ystod y partïon yma bydd tystysgrif yn cael ei roi i bob plentyn a gymerodd ran i’w hatgoffa o’r achlysur arbennig ynghyd â llyfryn a gyhoeddwyd yn arbennig i ddathlu pen-blwydd Dewin a Doti sef ‘Y Parti Piws’.
Meddai Carys Gwyn, Rheolwr Talaith Gogledd-ddwyrain Mudiad Meithrin ac un o drefnwyr y Pasiant:
“Rydym yn hynod o ddiolchgar i bawb am eu cydweithrediad parod i lwyfannu’r Pasiant Meithrin eleni, yn enwedig i Dilwyn Price am arwain y pasiant, i Elin Rhys am gyfeilio, ac, wrth gwrs, i’r holl arweinyddion, staff, a’r rhieni sydd wedi bod yn brysur yn paratoi’r plant tuag at y perfformiad arbennig yma – ac yn bennaf oll i’r holl blant fydd yn serennu ar y llwyfan.”
More Stories
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant
Yn eisiau! Ffermwr brwd, galluog a chymwys, wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, ar gyfer cyfle i ffermio cyfran yng Ngorllewin Cymru
Dros 1500 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o £161m