04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Dyn ifanc o Rydaman yn siarad yn y Senedd

BYDD dyn ifanc o Rydaman yn lleisio ei bryderon yn y Senedd ar ran pobl ifanc sy’n byw mewn ardaloedd gwledig.

Bydd Connor Strange hefyd yn trafod materion sy’n wynebu pobl ifanc sy’n byw yn lleol, megis trafnidiaeth a mynediad at wasanaethau iechyd meddwl, mewn Grŵp Hollbleidiol Seneddol.

Yn ddiweddar, mae’r dyn ifanc 23 oed wedi’i benodi’n aelod o Fwrdd Cenedlaethol Llais Ieuenctid y Deyrnas Unedig, sef grŵp llywio cenedlaethol sy’n cynnwys pobl ifanc o wahanol sefydliadau ieuenctid ledled y DU, a bydd yn cynrychioli Sir Gaerfyrddin a Chymru.

Am y ddwy flynedd nesaf, bydd wrth galon Ieuenctid y DU ac yn cryfhau’r cysylltiadau rhwng sefydliadau ieuenctid, yn cymryd rhan mewn ymgyrchoedd, yn meithrin cysylltiadau â’r rheiny sy’n gwneud penderfyniadau ac yn ysbrydoli pobl ifanc eraill i weithredu.

Dywedodd Connor: “Mae’n anrhydedd mawr cael gwahoddiad i fynd i’r Senedd i siarad gyda’r Grŵp Hollbleidiol Seneddol am wasanaethau gwledig. Rwy’n frwd iawn dros faterion gwledig a hoffwn weld newid yn enwedig o ran trafnidiaeth a chael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc mewn ardaloedd gwledig. Bydd y cyfarfod hwn yn fuddiol gan y byddaf yn gallu lleisio barn pobl ifanc o bob rhan o Sir Gaerfyrddin a chyflawni newid cadarnhaol yn y tymor hir.”

Hefyd, bydd Connor yn teithio i Hampshire yn ddiweddarach ym mis Mai i fynychu ei gyfarfod cyntaf o Grŵp Llais Ieuenctid y DU, lle bydd yn dod i adnabod y cyfranogwyr eraill, yn dysgu am y rôl ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau adeiladu tîm gwych yn yr awyr agored.

%d bloggers like this: