04/24/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Mae ail-hadu tri chwarter y glaswelltir ar fferm ar yr ucheldir yng Nghymru gyda chymysgedd o wndwn tymor byr a thymor hir yn gadael iddi dyfu mwy o laswellt ond hefyd yn cynnig tymor pori estynedig i ddefaid a gwartheg.

CYMERO Geraint a Rachel Davies y fferm deuluol yn Fedw Arian Uchaf, y Bala, drosodd yn 2011 ond, oherwydd nad oedd y tir wedi ei ail-hadu na’r maetholion wedi eu rheoli ers dros 20 mlynedd, roedd y cynhyrchiant glaswellt yn wael.

Datgelodd Cynllun Rheoli Maetholion a ariannwyd yn rhannol gan Cyswllt Ffermio nad oedd gan unrhyw gae ar y daliad organig pH dros 5.8 ac roedd y lefelau potash a ffosfforws yn bennaf ar fynegai 0 neu 1.

Er mwyn ymdrin â’r diffygion hyn, chwalodd Mr a Mrs Davies 1,000 tunnell o galch dros gyfnod o wyth mlynedd ac mae’r rhaglen hon yn parhau.

Maent hefyd wedi adnewyddu llwybrau oedd ar y fferm er mwyn hwyluso chwalu tail ar y caeau.

Yna aethant ati i ail-hadu 61 hectar (ha) o’u 81ha o laswelltir gyda mathau oedd yn cyfateb â’u system a’u hinsawdd a’u dymuniad i dyfu mwy o borthiant yn y gwanwyn a’r hydref i fyrhau’r cyfnod dan do i’w diadell o 650 o famogiaid Mynydd Cymreig a 50 o fuchod magu.

Yn ystod diwrnod agored Cyswllt Ffermio ar y fferm yn ddiweddar, dywedodd yr arbenigwr glaswelltir annibynnol, Chris Duller, sydd wedi bod yn rhan o’r prosiect ail-hadu, nad yw tua £500/ha o gostau ail-hadu yn swm bychan ond nododd: “Os gallwch chi dyfu tair tunnell yn ychwanegol ar bob hectar a defnyddio’r glaswellt hwnnw byddwch yn adfer y costau yn y flwyddyn gyntaf.”

Mewn system bîff gall pob tunnell ychwanegol o gynnwys sych a ddefnyddir gan wartheg gael ei throsi yn werth tua £185 o gynnydd mewn pwysau byw.

“Mae llawer o’r tir sydd heb ei droi ers tro yn debygol o fod yn cynhyrchu llai na 7tDM/ha y flwyddyn ond dylai gwndwn tymor hir newydd gynhyrchu 10t yn hawdd yn ei flwyddyn gyntaf, bydd gwndwn tymor byr yn cynhyrchu mwy fyth,” dywedodd Mr Duller.

Yn ogystal â rhygwellt Eidalaidd, sydd â’r potensial i dyfu 17-18tDM/ha yn y flwyddyn gyntaf, mae’r teulu Davies hefyd yn tyfu Westerwold, rhygwellt blynyddol, a fydd yn cynnig porfa yn hwyr i’r hydref ac yn gynnar yn y gwanwyn y flwyddyn ganlynol yn ogystal â thyfu cnwd silwair cynnar.

Dywedodd Mr Duller bod gwndwn tymor byr yn dda am lanhau caeau sydd â chwyn ond mae hefyd yn llenwi’r bylchau yn y gromlin tyfiant glaswellt. “Bydd cael amrywiaeth o fathau o wndwn a rhai cnydau porthiant yn symud oddi wrth y patrwm gormodedd neu brinder lle mae popeth yn tyfu ar ei orau ym mis Mehefin a Gorffennaf ond nad oes digon ar amseroedd eraill,” dywedodd.

Yr ochr negyddol, yn arbennig i systemau organig fel yr un ar Fedw Arian Uchaf, yw bod gofynion gwndwn tymor byr o ran maetholion yn uchel. Gallant hefyd fod yn dueddol o ddioddef afiechydon fel y gawod goch a chynhyrchu porfa agored a all achosi problem wrth bori mewn tywydd gwlyb.

Gall ei ddefnyddio hefyd fod yn heriol, yn arbennig gyda Westerwold, gan y gall ddechrau cynhyrchu pennau hadau os nad oes digon o bwysedd pori.

Ddeuddeng wythnos ar ôl hau, roedd y gwndwn Westerwold a’r rhygwellt Eidalaidd yn Fedw Arian Uchaf yn barod am doriad silwair ysgafn – gan gynhyrchu 2.7 a 2.3tDM/ha yn eu tro.

Ddeunaw diwrnod yn ddiweddarach roedd ŵyn ar yr adlodd oedd wedi tyfu’n dda.

Mae Mr a Mrs Davies hefyd yn tyfu rêp porthiant a swêj mewn ymgais i gael gwared ar yr angen am ddwysfwyd.

Dywed Mr Duller mai un o anfanteision tyfu cnydau porthiant yw eu bod yn arwain at gaeau moel yn y gwanwyn ond dywedodd y gellid lliniaru hyn trwy dyfu cnwd cyfatebol o rygwellt Eidalaidd. “Os ydych yn tyfu pum erw o swêj, tyfwch bum erw o rygwellt Eidalaidd mewn cae arall fel bod gan y da byw borthiant i symud iddo.”

Mater arall y mae Mr a Mrs Davies yn ymdrin ag o yw rheolaeth dŵr. Er gwaethaf glawiad eithriadol o uchel ar y fferm, gall y ffynonellau dŵr naturiol i dda byw sychu yn gyflym ac mae hyn yn effeithio ar y system bori cylchdro.

Trwy Cyswllt Ffermio, mae’r cwpl wedi cychwyn ar Gynllun Rheoli Dŵr ac yn awr yn ystyried y posibilrwydd o dyllu tyllau turio neu greu pyllau.

Maent hefyd yn ymdrin â darparu lleiniau cysgodi i dda byw trwy reoli gwrychoedd a choetiroedd ac maent yn gweithio gyda Coed Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ar brosiect i reoli coetir derw hynafol 35 erw.

Dywedodd Geraint Jones, Swyddog Technegol Coedwigaeth Cyswllt Ffermio, ei bod yn bwysig i ffermwyr beidio ag anwybyddu eu seilwaith gwyrdd, gan y gallant wella eu perfformiad economaidd ac amgylcheddol trwy wneud y defnydd gorau o wrychoedd a choetiroedd.

“Mae’r rhain yn asedau y gellir eu cymryd yn ganiataol neu eu hanghofio ond maent yn fodd pwysig o leihau allyriadau carbon a gwella iechyd da byw a’u lles trwy gynnig cysgod,” dywedodd Mr Jones.

AWGRYMIADAU I WNEUD GWELL DEFNYDD O WRYCHOEDD

Defnyddiwch ddull fferm gyfan wrth benderfynu pa wrychoedd i’w rheoli gyda chynllun rheoli gwrychoedd.

Mae bylchau yng ngwaelod gwrychoedd yn creu effaith twnnel wynt felly ystyriwch blygu gwrychoedd. Mae cyrsiau ar gael trwy LANTRA.

Os ydych yn creu padogau, gwnewch yn siŵr bod digon o gysgod – dylai gwrychoedd fod o hyd a graddfa briodol i gynnig cymaint o gysgod ag sy’n bosibl i’r nifer a’r dosbarth o dda byw a ddyrannwyd i bob padog.

Dynodwch ffynhonnell ariannol i helpu i dalu am gostau gwelliannau.

Wrth gynllunio a phlannu llain gysgodi neu wrych, dewiswch gyfran o rywogaethau fydd yn cynnig uchder er mwyn sicrhau bod y cysgod yn cyrraedd ymhell i’r cae.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

%d bloggers like this: