04/23/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Mudiad Meithrin yn llwyddo i gynnal Parti Piws Mwyaf y Byd

FEL rhan o ddathliadau pen-blwydd Dewin a Doti yn 10 oed eleni fe osododd Mudiad Meithrin sialens i bawb trwy Gymru i wisgo piws Ddydd Mercher 10 Ebrill gan anelu i gael 10,000 o bobl yn cymryd rhan i greu Parti Piws Mwyaf y Byd!

Mae’r Mudiad yn falch o gyhoeddi ei fod wedi chwalu’r targed o 10,000 gan i 12,500 o bobl (gan gynnwys un ceffyl!) yn cymryd rhan ym Mharti Piws Mwyaf y Byd ar draws Cymru!

Lansiwyd cymeriadau Dewin a Doti gan y Mudiad yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala yn 2009. Mae Dewin a Doti yn byw yn y Balalŵn fawr yn uchel yn yr awyr, ac maent wrth eu boddau’n clywed plant bach yn siarad Cymraeg ac yn gwibio i lawr o’r Balalŵn i chwarae gyda’r plant bach yn y Cylchoedd Meithrin i’w helpu a’u hybu i siarad Cymraeg.

Dywedodd Prif Weithredwr Mudiad Meithrin, Gwenllïan Lansdown Davies:
Roedd Parti Piws Mwyaf y Byd yn ffordd hwyliog i gylchoedd godi arian wrth ofyn i bob plentyn dalu punt am wisgo unrhyw ddilledyn piws ar y diwrnod.

“Cynhaliwyd Partïon Piws drwy Gymru benbaladr ar Ddydd Mercher 10fed o Ebrill. I ddathlu’r achlysur teithiodd Dewin a Doti i bob sir yng Nghymru yn y Balalŵn gan ymweld â rhai o’r plant yn narpariaethau’r Mudiad wrth iddynt gynnal Parti Piws i ddathlu eu pen-blwydd.”

Cynhelir nifer o ddigwyddiadau eraill i ddathlu pen-blwydd Dewin a Doti yn ystod yr haf  gan gynnwys Y Pasiant Meithrin ar y thema ‘Pen-blwydd Dewin a Doti’ a berfformir gan blant y cylchoedd yn ardal Caerdydd a’r fro ar lwyfan Pafiliwn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ar 1 Mehefin ym Mae Caerdydd, a Phasiant Meithrin ar y thema ‘Dathlu’ ar lwyfan pafiliwn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst ar fore Ddydd Mercher 7 Awst.

Bydd Heini (cymeriad hoffus sydd â rhaglen ar Cyw), hefyd yn perfformio sioe newydd sbon o’r enw ‘Dathlu gyda Dewin a Doti’ i blant bach Cymru. Bydd y sioe yn cael ei pherfformio mewn canolfannau ar hyd a lled Cymru fel rhan o daith Gŵyl Dewin a Doti a gynhelir gan Mudiad Meithrin rhwng 10 a 29 Mehefin.

LLUN 1: Cylch Meithrin Morfa Nefyn yn dathlu gyda Dewin

LLUN 2: Grŵp Cymraeg i Blant Aberhonddu

LLUN 3: ‘Buzz’ y Ceffyl yn Llangeitho, Ceredigion

%d bloggers like this: