03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Seremoni Wobrwyo i ddysgwyr Gofal Plant, Cynllun Ysgolion Cam wrth Gam

DDYDD Gwener 5ed o Orffennaf cynhelir Seremoni Wobrwyo arbennig yng Ngwesty’r Village, Abertawe er mwyn cyflwyno tystysgrifau ym maes Gofal Plant  i 85 o ddisgyblion ysgol uwchradd sy’n rhan o Gynllun Ysgolion Cam wrth Gam a reolir gan Mudiad Meithrin.

Bydd dros 180 o ffrindiau a theuluoedd y disgyblion llwyddiannus wedi teithio o bob rhan o Gymru i fod yn bresennol yn yr achlysur arbennig hwn.

Ers dechrau cynnig y gwasanaeth arbenigol yma i ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg yn 2006, mae dros 1,200 o ddisgyblion wedi cymhwyso ym maes gofal plant trwy gyfrwng y Gymraeg. Eleni mae 12 ysgol wedi bod yn rhan o gynllun hyfforddi Cam wrth Gam, sy’n cynnig cyrsiau i ddisgyblion mewn ysgolion uwchradd fel rhan o gwricwlwm yr ysgol.

Cynigir cwrs Tystysgrif Lefel 2 mewn Gofal ac Addysg Plant a chwrs Diploma Lefel 2 mewn Gofal Dysgu a Datblygiad Plant ynghyd â chwrs Diploma Lefel 3 mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant a chwrs Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant. CACHE yw’r corff dyfarnu sy’n achredu’r holl gyrsiau yma.

Caiff y tystysgrifau eu cyflwyno i’r disgyblion gan yr actor Carwyn Glyn, sy’n adnabyddus am chwarae rhan DJ yn y gyfres deledu Pobl y Cwm.

Ymysg y siaradwyr gwadd a fydd yn annerch y gynulleidfa bydd Dr Llinos Jones, Pennaeth Ysgol Bro Myrddin, Caerfyrddin, Karina Poultney-Shaw, Arbenigwr Pwnc, CACHE, a Natasha Jones cyn-fyfyrwraig.

Eleni am y tro cyntaf byddwn yn anrhydeddu ‘Dysgwr y Flwyddyn’. Bydd enillydd ar gyfer pob cwrs yn ogystal ag un enillydd Cenedlaethol. Noddir y gystadleuaeth hon gan CACHE.

Dywedodd Eunice Jones, Rheolwr Cynllun Hyfforddi Cenedlaethol y Mudiad:

“Mae Cam wrth Gam yn cydweithio’n agos gyda phenaethiaid ac awdurdodau lleol er mwyn cynnig rhaglenni hyfforddi sy’n diwallu anghenion ysgolion a’r gymuned yn y ffordd orau. Mae tiwtoriaid, aseswyr a dilyswyr sy’n meddu ar brofiad a chymwysterau priodol, yn darparu amrywiaeth sydd wedi’u teilwra i anghenion unigol y dysgwr.

“Mae wedi bod yn bleser beirniadu cystadleuaeth ‘Dysgwr y Flwyddyn’ eleni a mynd allan i weld y bobl ifanc yma’n gweithio gyda phlant ar lawr gwlad gan ymarfer yr hyn maent wedi ei ddysgu yn y dosbarth.

“Mae 12 ysgol wedi bod yn rhan o’r cynllun eleni ac fe fydd ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes yn ysgol newydd fydd yn ymuno â’r cynllun ym mis Medi.”

%d bloggers like this: