04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Tenantiaid y Cyngor i roi eu barn ynghylch gwasanaethau tai

GOFYNNIR i denantiaid yn Sir Gaerfyrddin roi eu barn ynghylch gwasanaethau tai.

Mae arolwg wedi cael ei anfon at filoedd o dai sy’n eiddo i’r Cyngor i annog pobl i roi adborth ynghylch y gwasanaethau y mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn eu darparu fel landlord ar hyn o bryd.

P’un a yw hynny’n ymwneud ag ansawdd cyffredinol eich cartref, eich cymdogaeth neu’r ffordd y mae’r Cyngor yn ymdrin â gwaith atgyweirio a chynnal a chadw tai mae’r tîm tai yn awyddus i gael adborth.

Gallwch ddychwelyd yr arolwg mewn amlen radbost a bydd pawb sy’n llenwi’r arolwg yn cymryd rhan yn awtomatig mewn cystadleuaeth i ennill un o dair gwobr o £100.

Dywedodd y Cynghorydd Linda Davies-Evans, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Dai: “Mae sylwadau a barn ein tenantiaid yn bwysig iawn i ni ac rydym bob amser yn ystyried sut y gallwn wella ein gwasanaethau. Mae hwn yn gyfle delfrydol i bobl ddweud wrthym pa mor dda rydym yn gwneud neu os oes angen i ni wneud mwy. Bydd yr holl wybodaeth a ddarperir yn yr arolygon yn rhan o’n cynlluniau i wella’r gwasanaethau hyn yn y dyfodol. Gofynnir i chi lenwi’r holiadur a’i ddychwelyd yn yr amlen ragdaledig.”

Bydd cwmni annibynnol o’r enw ARP Research yn cynnal yr arolwg hwn ar ein rhan, yn unol â rheolau diogelu data (GDPR) a Chôd Ymddygiad y Market Research Society. Mae ARP Research yn gwbl gyfrinachol ac ni fydd unrhyw gysylltiad rhwng eich atebion a phwy ydych yn cael ei gadw o ran data’r arolwg.

 Y dyddiad cau yw 18 Mehefin.

%d bloggers like this: