04/23/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Wi-Fi am ddim yn Amgueddfa Parc Howard

MAE Wi-Fi cyhoeddus am ddim bellach ar gael yn Amgueddfa Parc Howard.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Llanelli wedi buddsoddi’n sylweddol yn seilwaith digidol yr Amgueddfa er mwyn darparu gwasanaeth am ddim i ymwelwyr a chaniatáu mwy o ddefnydd o dechnoleg ddigidol yn yr Amgueddfa yn y dyfodol.

Mae cysylltedd digidol yn rhan o gynllun datblygu hirdymor yr amgueddfa i gynyddu mynediad i ymwelwyr ac ennyn eu diddordeb yn yr amgueddfa, gan ddarparu gwasanaethau a chyfleusterau sydd â’r potensial i gynnig amrywiaeth eang o fuddion cyhoeddus a chymunedol.

Mae’r ddarpariaeth yn cynnig llawer o gyfleoedd cyffrous, megis apiau i’w lawrlwytho i archwilio a rhyngweithio â hanes yr amgueddfa a’r parc, realiti estynedig, cyflwyno cynnwys mwy amlgyfrwng mewn arddangosfeydd, llwybrau archwilio a gemau.

Dywedodd Morrigan Mason, Rheolwr Datblygu Amgueddfeydd Cyngor Sir Caerfyrddin: “Mae gennym syniadau gwych ar gyfer gwneud Parc Howard yn lle mwy cyffrous, croesawgar a gofalgar.  Bydd rhai o’r newidiadau hyn yn cymryd blynyddoedd ac mae eraill yn digwydd nawr.  Rydym yn canolbwyntio ar gysylltu â’n cymunedau mewn ffyrdd newydd, megis archwilio sut y gellir defnyddio sianeli cyfryngau cymdeithasol presennol yn fwy creadigol er mwyn annog pawb i gymryd rhan a chyfrannu eu syniadau.”

Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol Dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth a Chadeirydd Grŵp Cydweithredu Parc Howard: “Rydym yn falch o fuddsoddi mewn seilwaith digidol i helpu’r Amgueddfa i dyfu ac arallgyfeirio. Mae’n gyfnod cyffrous i Barc Howard, cafodd ei gynnwys ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr fawreddog Amgueddfeydd sy’n Croesawu Teuluoedd 2019, ac rydym yn gobeithio y bydd yn mynd o nerth i nerth.”

Dywedodd y Cynghorydd Shahana Najmi, Arweinydd Cyngor Tref Llanelli: “Rwy’n falch iawn o weld y cynllun Wi-Fi cyhoeddus am ddim yn cael ei gwblhau. Mae Parc Howard yn ased ac yn atyniad gwerthfawr, nid yn unig ar gyfer tref Llanelli ond i Sir Gaerfyrddin gyfan ac mae uwchraddio’r cysylltedd Wi-Fi yn gam bach ond hanfodol tuag at fwriad y grŵp i wella cyfleusterau yn y Parc.”

%d bloggers like this: