04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Wythnos Diogelwch Tanau Simnai 2019 

MAE Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cynnig cyngor ar ddiogelwch rhag tân mewn simneiau yn rhan o Wythnos Genedlaethol Diogelwch Rhag Tân mewn Simneiau 2019.

Bydd yr ymgyrch yn cael ei chynnal rhwng 2 a 8 Medi, a’r nod fydd darparu gwybodaeth a chyngor er mwyn lleihau nifer y tanau mewn simneiau.

Mae tanau mewn simneiau fel arfer yn dechrau o ganlyniad i groniad o huddygl, a gallant achosi niwed eang i eiddo ac, mewn rhai achosion, beryglu bywydau. Un o brif achosion gwenwyn Carbon Monocsid yw simneiau sydd wedi’u blocio’n llwyr neu’n rhannol; felly, er na fyddant, o bosibl, yn mynd ar dân, gallant fod yn beryglus. Ewch i’n gwefan i gael rhagor o wybodaeth am Garbon Monocsid http://www.mawwfire.gov.uk/Cymraeg/Diogelwch/Yn-Y-Cartref/Pages/Diogelwch-Carbon-Monocsid.aspx

Mae yna hefyd ragor o wybodaeth ar wefan yr elusen Gas Safety

http://www.gassafecharity.org.uk/our-programmes/think-co/

Ni all Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru bwysleisio digon beryglon posibl tanau mewn simneiau, felly dilynwch y cyngor syml isod er mwyn helpu i leihau unrhyw beryglon posibl yn eich cartref.

  • Ysgubwch y simnai cyn ei defnyddio os nad ydych wedi ei defnyddio ers cryn amser.
  • Sicrhewch fod sgrin dân yn cael ei rhoi o flaen y tân bob amser.
  • PEIDIWCH BYTH â defnyddio petrol neu baraffin i gynnau eich tân.

Pa mor aml y dylech lanhau eich simnai?

Gall tanau mewn simneiau achosi difrod difrifol i’ch eiddo, felly sicrhewch y caiff eich simnai ei glanhau yn unol â’r canllawiau hyn gan Gymdeithas Genedlaethol y Glanhawyr Simneiau:

  • Dyfeisiau sy’n Llosgi Tanwydd Solet – unwaith y flwyddyn ar gyfer tanwydd di-fwg a dwywaith y flwyddyn ar gyfer glo
  • Dyfeisiau sy’n Llosgi Pren – bob tri mis pan fyddant yn cael eu defnyddio
  • Dyfeisiau sy’n Llosgi Nwy – unwaith y flwyddyn os ydynt wedi’u cynllunio i gael eu glanhau
  • Dyfeisiau sy’n Llosgi Olew – unwaith y flwyddyn

Peidiwch â chael eich temtio i lanhau eich simnai gan ddefnyddio hwfer domestig, gofynnwch i lanhawr simnai wneud y gwaith. Trefnwch i’ch ffliw gael ei harchwilio’n rheolaidd er mwyn atal tân rhag dechrau mewn simnai yn yr ystafelloedd byw, neu’r llofft.

Mae gan Gymdeithas Genedlaethol y Glanhawyr Simneiau rwydwaith o aelodau sydd wedi’u hyswirio’n llwyr ledled y wlad, sy’n dilyn Cod Ymarfer. I gael rhagor o fanylion, ffoniwch 01785 336555 am ddim neu ewch i’r wefan http://nacs.org.uk/​

Beth ddylech ei wneud os bydd tân yn eich simnai?

  • Rhowch wybod i bawb yn y tŷ
  • Ffoniwch 999 a gofynnwch am y Gwasanaeth Tân – rydym yn trin tanau mewn simneiau fel unrhyw dân arall yn y cartref
  • Os oes gennych dân agored cyffredin, ceisiwch ddiffodd y tân drwy sblasio dŵr ar y tân agored
  • Os oes gennych ddyfais sy’n llosgi tanwydd solet, caewch yr awyriad cymaint â phosibl
  • Symudwch ddodrefn a rygiau i ffwrdd o’r lle tân, yn ogystal ag unrhyw addurniadau gerllaw
  • Rhowch sgrin dân neu sgrin atal gwreichion o flaen y tân
  • Teimlwch y frest simnai mewn ystafelloedd eraill am arwyddion o wres
  • Os bydd wal yn mynd yn boeth, symudwch ddodrefn i ffwrdd oddi wrtho

Sicrhewch fod modd mynd i fyny i’ch atig neu lofft gan y bydd y Gwasanaeth Tân am archwilio’r ardal hon yn drylwyr am arwyddion o dân yn lledaenu.

COFIWCH

Os nad ydych yn ei chynnal a’i chadw’n briodol, gall unrhyw ffliw o dân neu stof achosi i nwy carbon monocsid grynhoi, ac mae hynny’n beryglus.

Bydd synhwyrydd carbon monocsid yn helpu i’ch diogelu rhag y risg hon.

I gael rhagor o gymorth ac arweiniad, gweler ein taflen ynghylch ‘Cyngor Diogelwch Rhag Tân Simnai‘.

%d bloggers like this: