04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Ymweliad Brenhinol â Marchnad Caerfyrddin a Theatr y Lyric

BU Duges Cernyw yn blasu rhyfeddodau Marchnad Caerfyrddin ac yn mwynhau perfformiad arbennig i ddathlu pen-blwydd Opera Ieuenctid Caerfyrddin a’r Cylch yn 40 oed yn Theatr y Lyric.

Mae Ei Huchelder Brenhinol wedi bod yn Noddwr Opera Ieuenctid Caerfyrddin a’r Cylch ers 2010 ac fe ddaeth i’r Lyric i wylio perfformiad o ganeuon o Chitty Chitty Bang Bang ac i gyfarfod ag aelodau o’r cast, yn ogystal â gwirfoddolwyr sy’n helpu i redeg y cynhyrchiad i ddynodi pen-blwydd yr opera ieuenctid yn 40.

Roedd y tenor lleol Wynne Evans, a ddaeth yn enwog am yr hysbysebion Go Compare, yno hefyd. Mam Wynne, Liz, oedd un o sefydlwyr yr opera ieuenctid.

Cyfarfu’r Dduges â Nancy Butters, sy’n 103 oed ac sy’n un o hoelion wyth yr opera ieuenctid ers tro byd, gan drafod cymaint yr oedd yn edrych ymlaen at y perfformiad.

Dywedodd Oliver John, sy’n ddeunaw oed, a chwaraeodd rôl Potts, ei fod wedi’i ryfeddu pan fu i’r Dduges ei adnabod.

“Dywedodd ei bod hi’n fy nghofio ers pan berfformiais flynyddoedd yn ôl yn Llwynywermod, ond dim ond plentyn oeddwn i ar y pryd,” meddai. “Siaradodd â ni am y sioe ac roedd yn fraint cael cwrdd â hi.”

Cyflwynwyd tusw o flodau iddi gan Alys Bowen-Price ac Isabelle John, sydd ill dau yn naw oed ac yn chwarae Jemima. Roedd cael cwrdd â’r Dduges yn achos cyffro o’r mwyaf iddynt.

“Fe ddiolchodd i ni a dweud ein bod yn canu’n dda iawn,” meddai Alys.

Yna aeth y Dduges i Farchnad Caerfyrddin i gwrdd â masnachwyr a stondinwyr, gan gynnwys Richardson’s Bakery, a wnaeth gacennau ar gyfer ei phriodas yn 2005.

 

Dywedodd Paula Richardson: “Fe rois i bicen ar y maen iddi a dywedodd ei bod yn flasus iawn. Dywedais mai’r peth gorau i’w wneud oedd eu bwyta â menyn Cymreig. Dywedodd wrtha’ i faint roedd Tywysog Siarl yn dwlu ar ein cacen ffrwythau hefyd.”

Yn ogystal, gwnaeth Ei Huchelder Brenhinol brofi caws Teifi y stondinwr Danny Oopstall, a oedd hefyd wedi ei gwahodd i dorri caws.

Dywedodd Danny: “Roedd hi wrth ei bodd â’r caws felly fe wnes i hamper arbennig ar ei chyfer.”

Galwodd y Dduges hefyd yn siop anifeiliaid anwes Burns a chael sgwrs â’r perchennog, John Burns, am ei gynllun darllen i gŵn.

“Mae ganddi ddiddordeb mawr mewn cŵn cymorth, a holodd hi fi hefyd am fy mwyd anifeiliaid anwes a pham ddes i Gymru,” meddai.

Cafodd y farchnad ei henwi’n Farchnad Orau Cymru gan Slow Food Cymru yn ddiweddar, sef cynllun gwobrau sy’n amlygu marchnadoedd, tai bwyta, a masnachwyr a chynhyrchwyr bwyd annibynnol ‘da, glân a theg’ ledled y wlad.

Daw’r ymweliad â Chaerfyrddin hanner can mlynedd ers yr arwisgo ac mae’n rhan o’u hymweliad blynyddol bob haf â Chymru.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Rydym yn falch fod EHB wedi dewis dod i Theatr y Lyric. Mae’r opera ieuenctid yn enghraifft wych o’r cyfoeth o dalent sydd gennym yn Sir Gaerfyrddin.”

Dywedodd y Cynghorydd David Jenkins, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau: “Roedd hwn yn gyfle gwych i ni arddangos y cynnyrch o safon sydd ar gael yn ein marchnad arobryn. Bu i’r stondinwyr fwynhau sgwrsio â’r Dduges ac roedd yn syrpreis neis i’r siopwyr.”

 

%d bloggers like this: