04/18/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

£1.1 miliwn ar gyfer Amgueddfeydd a Llyfrgelloedd yng Nghymru

BYDD wyth amgueddfa a llyfrgell yn elwa o gyllid o £1.1 miliwn drwy Grantiau Cyfalaf Trawsnewid Llywodraeth Cymru.

Nod y Cynllun yw cefnogi amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd lleol i adfywio cyfleusterau gan ganolbwyntio’n benodol ar ehangu mynediad, gweithio mewn partneriaeth a datblygu gwasanaethau cynaliadwy.

Bydd pum llyfrgell yn cael eu moderneiddio gyda’r cyllid yn mynd tuag at gyfleusterau cymunedol newydd, ac yn cefnogi sefydlu ‘hybiau’ ehangach lle gall pobl gael mynediad at wasanaethau llyfrgell ochr yn ochr ag amrywiaeth o amwynderau eraill. Bydd Llyfrgell Treorci yn cael ei hailddatblygu a bydd yn gweithio mewn partneriaeth â Theatr y Parc a’r Dâr i greu canolfan ddiwylliannol newydd i Dreorci i greu gofod mwy modern a hyblyg a all gynnal ystod eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau.

Yn Rhaeadr, bydd Amgueddfa ac Oriel Rhaeadr Gwy yn gosod llawr mesanîn newydd mewn amgueddfa sy’n cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr i wella’r gofod arddangos yn yr amgueddfa a chreu mannau storio newydd ar gyfer y casgliadau.

Fel rhan o brosiect Atyniad twristiaeth Pentywyn, gwerth miliynnau, mae’r Amgueddfa Cyflymder Tir yn cael ei hailadeiladu’n llwyr. Bydd yr arian yn cynnal y gwaith o osod ystafell addysg aml-swyddogaeth, a man arddangos newydd a fydd yn caniatáu arddangosfeydd a benthyciadau dros dro o gasgliadau cenedlaethol pan fydd y datblygiad newydd yn agor.

Dywedodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon: “Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod wedi ymrwymo i gefnogi’r gwasanaethau pwysig hyn – a fydd mor bwysig o ran helpu Cymru i wella o effaith y pandemig. Bydd y prosiectau hyn yn ehangu mynediad i’n cymunedau, gan hyrwyddo cysylltiadau diwylliannol, darparu cyfleoedd dysgu a chefnogi cydlyniant a ffyniant cymunedol – sydd ei angen nawr yn fwy nag erioed.”

Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: “Mae ein hamgueddfeydd, ein llyfrgelloedd a’n harchifau yn darparu gwasanaethau hanfodol i’r gymuned ac i ymwelwyr ledled Cymru.

“Rwy’n falch o helpu i ariannu’r uwchraddio a’r gwelliannau sydd eu hangen, ac rwy’n edrych ymlaen at weld y canlyniadau wrth i’r prosiectau hanfodol hyn fynd rhagddynt.”

%d bloggers like this: