04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

w

£1.3m i gefnogi pecyn gwasanaethau iechyd meddwl i bawb

MAE’R Gweinidog Iechyd Vaughan Gething wedi cyhoeddi cymorth iechyd meddwl ychwanegol a fydd ar gael i unrhyw un yng Nghymru pan fydd arnynt ei angen.

Cefnogir y pecyn gan £1.3m o gyllid gan Lywodraeth Cymru ac mae’n cynnwys cwrs Therapi Gwybyddol Ymddygiadol ar-lein newydd a gwasanaethau cymorth eraill ar-lein a dros y ffôn.

Dywedodd Mr Gething: “Mae arolygon gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dangos bod lefelau gorbryder wedi cynyddu ar ddechrau pandemig y coronafeirws, a’u bod yn parhau’n uwch na’r arfer yn ystod y cyfnod hwn.

Mae GIG Cymru a phartneriaid eisoes yn darparu cymorth iechyd meddwl dros y ffôn ac ar-lein ond bydd y cyhoeddiad heddiw yn ehangu’r hyn sydd eisoes ar gael ac yn darparu cwrs Therapi Gwybyddol Ymddygiadol ar-lein newydd, a fydd ar gael i unrhyw un 16 mlwydd oed neu hŷn.

Mae SilverCloud yn cynnig cymorth ar gyfer materion amrywiol gan gynnwys gorbryder ac iselder. Mae defnyddioldeb ac effeithiolrwydd cynllun peilot cenedlaethol y rhaglen wrthi’n cael eu gwerthuso, gan ddatblygu ar waith blaenorol Bwrdd Iechyd Lleol Powys sydd, hyd yma, wedi cefnogi dros 3,000 o bobl.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi iechyd meddwl y cyhoedd, ac rydym wedi sicrhau bod y pecyn hwn o fesurau ychwanegol wedi’i sefydlu cyn unrhyw ail don bosibl dros y gaeaf ac wrth i effaith y pandemig gael ei theimlo’n ehangach.

Nod y gwasanaethau hyn yw darparu cymorth ar gyfer materion iechyd meddwl lefel isel; ni fyddant yn cymryd lle gwasanaethau mwy arbenigol ond, drwy gynnig mynediad uniongyrchol at gymorth, ein gobaith yw y byddant yn helpu i leihau pwysau ar ofal sylfaenol a gwasanaethau mwy arbenigol eraill.”

Cwrs ar-lein yw SilverCloud sy’n cynnig cymorth ar gyfer gorbryder, iselder a llawer mwy, y cwbl yn seiliedig ar Therapi Gwybyddol Ymddygiadol. Gall unrhyw un 16 mlwydd oed neu hŷn gofrestru yma nhswales.silvercloudhealth.com/signup/.

Dyma fesurau cymorth eraill sydd eisoes ar gael ac a fydd yn cael eu cefnogi ymhellach gan y pecyn cyllid £1.3m:

CALL – Llinell Wrando ar gyfer Iechyd Meddwl

Mae CALL yn darparu llinell wrando a chymorth emosiynol ar gyfer iechyd meddwl sydd ar agor 24 awr y dydd, bob dydd. Gall hefyd eich cyfeirio at gymorth lleol a gwybodaeth amrywiol ar-lein. Ffoniwch 0800132737, tecstiwch “help” i 81066 neu ewch i http://callhelpline.org.uk/DefaultW.asp.

Beat – llinell gymorth ar gyfer anhwylderau bwyta

Mae Beat yn darparu llinellau cymorth a gwybodaeth i oedolion a phobl ifanc, gan gynnig amgylchedd cefnogol i siarad am anhwylderau bwyta a sut i gael cymorth. Ffoniwch 0808 801 0677 neu ewch i https://www.beateatingdisorders.org.uk/support-services.

Monitro Gweithredol Mind

Mae’r gwasanaeth hwn yn darparu hunangymorth dan arweiniad ar gyfer gorbryder, iselder, hunan-barch a mwy. I ddechrau arni, siaradwch â’ch meddyg teulu, unrhyw weithiwr iechyd proffesiynol arall neu cofrestrwch yn uniongyrchol yma: https://www.mind.org.uk/get-involved/active-monitoring-sign-up/active-monitoring-form/

Bywyd ACTif

Mae’r cwrs fideo ar-lein “Bywyd ACTif’ yn rhannu ffyrdd ymarferol o ymdopi â meddyliau a theimladau sy’n achosi gofid, gan helpu i fyw bywyd gyda mwy o hyder. I ddechrau arni, ewch i https://icc.gig.cymru/gwasanaethau-a-thimau/bywyd-actif/.

Pecyn Cymorth Iechyd Meddwl Pobl Ifanc

Mae’r Pecyn Cymorth Iechyd Meddwl Pobl Ifanc yn cysylltu pobl ifanc, rhwng 11 a 25 mlwydd oed, â gwefannau, apiau, llinellau cymorth a mwy i feithrin cadernid. Mae’r pecyn ar gael yma bit.ly/ypmhten.

%d bloggers like this: