04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

100 o yrwyr yng Nghymru a oedd wedi yfed neu gymryd cyffuriau’n rhan o wrthdrawiadau yn ystod ymgyrch

Cafodd dros 500 o bobl eu dal yn gyrru ar ôl yfed neu gymryd cyffuriau yn ystod ymgyrch a gynhaliwyd gan y pedwar gwasanaeth heddlu yng Nghymru adeg y Nadolig.

Gwelodd yr ymgyrch flynyddol yn erbyn yfed a gyrru, a gynhaliwyd o 1 Rhagfyr 2021 – 1 Ionawr 2022, 299 arést am yfed a gyrru, a 120 am gymryd cyffuriau a gyrru.

Roedd bron 100 o’r arestiadau hynny – 85 am yfed a gyrru ac 14 am gymryd cyffuriau a gyrru – ar ôl gwrthdrawiadau traffig y ffyrdd.

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Clark Jones-John o Heddlu Dyfed-Powys: “Mae’r ffaith bod diod neu gyffuriau’n ffactor mewn bron 100 gwrthdrawiad yng Nghymru mewn un mis yn destun pryder mawr, ac yn gwbl annerbyniol.

“Yr ydym yn cynnal yr ymgyrchoedd hyn er mwyn ceisio codi ymwybyddiaeth o ddifrifoldeb gyrru dan ddylanwad, felly mae’n siomedig iawn bod cymaint o bobl, a fydd yn colli eu trwydded yrru, wedi’u dal.

“Bydd y canlyniadau’n fwy difrifol ar gyfer rhai, a fydd yn colli eu swydd.

“Mae swyddogion heddlu’n gweithio 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, a dylai unrhyw un sy’n ystyried gyrru dan ddylanwad cyffuriau neu alcohol wybod y byddwn ni allan yno’n disgwyl amdanynt.

“Byddwn ni’n parhau i weithredu’n llym yn erbyn y rhai sy’n mentro’n ddiangen ac yn eu dwyn gerbron y llysoedd.”

Arestiodd Heddlu Dyfed-Powys 66 o yrwyr a oedd wedi bod yn yfed a 33 o yrwyr a oedd wedi cymryd cyffuriau; arestiodd Heddlu Gwent 51 o yrwyr a oedd wedi bod yn yfed a 49 o yrwyr a oedd wedi cymryd cyffuriau; arestiodd Heddlu Gogledd Cymru 115 o yrwyr a oedd wedi bod yn yfed a 72 o yrwyr a oedd wedi cymryd cyffuriau, ac arestiodd Heddlu De Cymru 67 o yrwyr a oedd wedi bod yn yfed a 48 o yrwyr a oedd wedi cymryd cyffuriau.

Dywedodd Mark Travis, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu De Cymru: “Cafodd dros 500 o yrwyr Nadolig a Blwyddyn Newydd i gofio am y rhesymau anghywir ar ôl cael eu harestio gan swyddogion heddlu ledled Cymru am yrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.

“Mae’n siomedig bod rhai pobl dal yn barod i fentro a mynd tu ôl i’r olwyn dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.

“Dydw i ddim yn credu bod pobl yn deall peryglon yfed a gyrru’n llawn. Mae’n amlwg nad yw’r rhai sy’n mentro’n meddwl am deuluoedd y rhai sydd wedi marw wrth law gyrrwr sydd wedi yfed alcohol neu gymryd cyffuriau.

“Yn aml, ein swyddogion yw’r rhai cyntaf i gyrraedd lleoliad gwrthdrawiadau o’r fath, ac mae rhai o’r pethau maen nhw wedi gweld yn erchyll. Ni ddylai neb weld y fath olygfa na dioddef oherwydd gweithredoedd anghyfrifol ac anghyfreithlon rhywun arall.”

Mae’r heddlu’n gweithredu yn erbyn pobl sy’n gyrru ar ôl yfed alcohol neu gymryd cyffuriau bob dydd. Gofynnir i unrhyw un sy’n poeni am rywun y mae’n credu sy’n gyrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau gysylltu â’r heddlu ar 101 (neu 999 os yw’n cyflwyno perygl yn y dyfodol agos). Fel arall, cânt gysylltu â Crimestoppers Cymru’n ddienw ar 0800 555 111.

 

%d bloggers like this: