03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

11,000 darianau wyneb i ysbytai ac arwyr gofal iechyd

MAE mwy na 11,000 o dariannau wedi’u cynhyrchu ar fyrder i ysbytai a staff y GIG sy’n gweithio yn Ne a Gorllewin Cymru.

Bu cynllun The Amman Valley MakerSpace (AVMS), sy’n rhoi mynediad i’r gymuned at dechnolegau newydd, torri laser ac offer argraffu 3D, yn cydweithio gyda Dr Dimitrios Pletsas, o Brifysgol Abertawe, fu o gymorth i ddylunio’r tariannau wyneb.

Bu oddeutu 40 o ffermydd argraffu ar draws tair sir yn cynhyrchu tarianau wyneb, sydd wedi pasio profion clinigol ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Mae Ysbyty’r Tywysog Phillip, yn Llanelli; Ysbyty Gyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin ac Ysbyty Treforus a Singleton, yn Abertawe, wedi derbyn tariannau.  Bydd staff fferyllwyr lleol hefyd yn eu gwisgo, a thimau nyrsio ardal.

Mae’n bosibl ail-ddefnyddio’r tariannau ac maent yn fioddiraddiadwy ac yn gyfeillgar i’r amgylchedd.

Meddai Robert Venus, sy’n rhedeg cynllun Amman Valley MakerSpace, yn Nyffryn Aman, Sir Gaerfyrddin: “Mae’r fenter hon wedi dangos gwir werth cydweithio ac arloesi ar draws y sector.

“Mae wedi dangos pa mor hanfodol yw creadigrwydd, dylunio, peirianneg a sgiliau creu i les unigolyn yn ogystal ag i’r gymdeithas yn gyffredinol.  Byddwn yn parhau â’r fenter hon wedi Covid gan bod yr egni a’r positifrwydd yn llawer rhy werthfawr i’w  golli.”

Mae nifer o gwmnïau lleol wedi rhoi cynnyrch am ddim, gan gynnwys Haydale Limited, roddodd ei stoc gyfan o ffilament 3D ar gyfer y tariannau.  Mae Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Coedwig Gorllewin Brechfa hefyd wedi rhoi tuag at argraffgwyr 3D a defnyddiau traul ar gyfer y masgiau.

Meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: “Mae coronafeirws wedi cael effaith fawr ar fywydau pawb ac yn parhau i gyflwyno heriau na welwyd mo’u tebyg.

“Fodd bynnag, rydyn ni’n gweld y gorau mewn pobl, busnesau a sefydliadau sy’n gwneud mwy na sydd raid iddynt i geisio goresgyn yr heriau.

“Mae Amman Valley MakerSpace yn helpu i warchod ein harwyr gofal iechyd rheng flaen fel y gallant ganolbwyntio ar arbed bywydau eraill.  Mae ymdrechion anhygoel fel eu hymdrech hwy yn dangos beth sy’n bosibl wrth arloesi, cydweithio, a gweithio’n gyflym.  Hoffwn ddiolch i bob un ohonyn nhw am yr hyn y maent yn ei wneud.”

%d bloggers like this: