03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

£15 miliwn ychwanegol ar gyfer argyfwng hinsawdd a natur

MAE’R Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, wedi cyhoeddi bod bron £15 miliwn ar gael i berchenogion a rheolwyr tir sydd am wella bioamrywiaeth er mwyn helpu Cymru i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur.

Bydd y Rhaglen Rhwydweithiau Natur yn helpu pob math o gynefinoedd mwyaf gwerthfawr Cymru i ffynnu drwy gael eu rheoli’n well – o forfeydd heli ac aberoedd i goedwigoedd a glaswelltiroedd – a bydd hefyd yn helpu pobl i feithrin cysylltiad â natur er mwyn gwella’u lles.

Mae’r safleoedd hyn yn gartref i greaduriaid eiconig – fel y dyfrgi, y dolffin trwynbwl a’r morlo llwyd, a hefyd i rai llai cyfarwydd – fel llysiau’r afu petalog a malwod troellog. Maent hefyd yn gartref i amrywiaeth eang o adar, gan gynnwys y pâl, sydd mewn perygl difrifol.

Mae Fferm Moel y Ci ar gyrion Parc Cenedlaethol Eryri yn un prosiect o’r fath sydd wedi elwa yn y gorffennol ar gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru, ac mae’n bwriadu cyflwyno cais arall. Mae’r fferm yn defnyddio asynnod – rhai ohonynt wedi’u hachub ar ôl cael eu hesgeuluso ym more’u hoes – i bori glaswelltir pwysig er mwyn rheoli rhedyn ymledol ar y tir.

Yn ôl arweinydd y prosiect, Ruth Stronge, mae hynny wedi creu lle ar gyfer tegeirianau prin a phlanhigion eraill, ac mae hynny, yn ei dro, wedi rhoi hwb i bryfed ac wedi denu adar i’r ardal.

Mae Fferm Moel y Ci yn gofyn am gymorth gwirfoddolwyr lleol i ofalu am yr asynnod, ac yn ôl Ruth, mae hynny wedi bod o gymorth i iechyd meddwl pawb sy’n gysylltiedig â’r gwaith:

“Mae’r asynnod yn hapus, mae’n gwirfoddolwyr a’n hymwelwyr yn hapus, mae’n hamgylchedd yn ffynnu – mae pawb a phopeth ar eu hennill!

Rydyn ni’n cymryd gofal mawr ar Fferm Moel y Ci i reoli’r tir ’orau y gallwn ni, yn enwedig gan fod y fferm yn safle pwysig sy’n cysylltu tir pori hanesyddol â Pharc Cenedlaethol Eryri, sydd mor bwysig inni.

Mae’r asynnod wedi troi cae oedd wedi’i orchuddio â phrysgwydd eithin yn werddon o degeirianau a gloÿnnod byw sy’n gallu ymledu i ffermydd cyfagos hefyd. Ac i goroni’r cyfan, mae gennym bellach fan trawiadol o hardd y gall ein cymuned, ein hadar a’n hasynnod ei rannu a’i fwynhau.”

Mae rheoli tir yn dda gan ddefnyddio’r dulliau pori cywir a phlannu rhywogaethau cymysg yn golygu bod bywyd gwyllt yn ffynnu, bod llygredd niweidiol yn cael ei leihau a bod cymaint â phosibl o garbon yn cael ei amsugno o’r atmosffer. Ar y gwaethaf, mae rheoli tir yn wael yn dwysáu’r argyfwng natur wrth i fywyd gwyllt frwydro i ddod o hyd i fwyd a lloches, ac mae hefyd yn gwaethygu’r argyfwng hinsawdd wrth i diroedd ryddhau mwy o garbon nag y maen nhw’n gallu’i storio.

Yn fwy na hynny, mae tiroedd llwm, heb amrywiaeth o ran rhywogaethau, yn golygu bod natur yn llai abl i ddarparu dŵr yfed o ansawdd da inni ac aer glân inni ei anadlu.

Meddai y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James:

“Gall rheoli tir yn wael arwain at ganlyniadau trychinebus nid yn unig i’n hecoleg, ond hefyd i iechyd pobl Cymru. Ond ’drychwch beth ellir ei gyflawni drwy reoli tir yn dda – o gael ychydig o help llaw, gall ein planhigion, ein bywyd gwyllt a’n cymunedau ffynnu!

Diolch Ruth, a phawb ar Fferm Moel y Ci – gan gynnwys yr asynnod – am eich gwaith ysbrydoledig. Hoffwn i annog pob perchennog a rheolwr tir i wneud cais am y cyllid hwn drwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, er mwyn ichi fedru helpu i drosglwyddo Cymru doreithiog o ran bioamrywiaeth i genedlaethau’r dyfodol.”

%d bloggers like this: