04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

£182m i gefnogi byw’n annibynnol a lleihau’r pwysau ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol

“MAE cael cartref addas a fforddiadwy yn hanfodol i iechyd a llesiant pawb.” medd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, wrth iddi gyhoeddi cronfa newydd gwerth £182m i ddarparu tai a llety arbenigol ledled Cymru.

Dywedodd y Gweinidog y bydd y Gronfa Tai â Gofal yn golygu y bydd cyllid newydd ar gael i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn ystod y tair blynedd nesaf i ddarparu ‘cartrefi iach sy’n rhoi’r cyfle i unigolion a theuluoedd fwynhau sail sefydlog a diogel sy’n bodloni eu hanghenion’.

Y nod hefyd yw cynyddu cyfanswm y tai gofal ychwanegol yng Nghymru drwy sicrhau y bydd nifer sy’n cyfateb i draen y nifer presennol yn cael eu hychwanegu dros y pedair blynedd nesaf, yn ogystal â helpu pobl sydd ag anabledd dysgu, anhwylder sbectrwm awtistiaeth, a chyflyrau niwrolegol eraill i fyw’n annibynnol yn eu cartref eu hunain, lle bo hynny’n bosibl.

Hefyd mae’n flaenoriaeth allweddol ariannu gwasanaethau preswyl rhanbarthol i blant ag anghenion cymhleth er mwyn sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu bodloni mor agos i’w cartrefi â phosibl, ochr yn ochr â buddsoddi mewn tai a llety gofal canolraddol i’r rheini nad ydynt yn barod eto i fwynhau annibyniaeth lawn.

Wrth siarad ar ymweliad â Thŷ Glas y Dorlan yng Nghwmbrân, dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James:

“Mae creu sail sefydlog a diogel yn hanfodol er mwyn i bobl Cymru allu fynnu – dylai pawb gael y cyfle i fyw mewn cartref fforddiadwy o ansawdd da lle maen nhw’n gallu ymgartrefu a bod yn gyfforddus.

Dylai’r cartrefi hyn fod yn rhywle lle gallan nhw deimlo’n ddiogel ac ar yr un pryd mwynhau cysylltiadau â’u cymuned leol a gwaith.

Rydyn ni’n gwybod bod llawer o bobl yng Nghymru sydd weithiau’n ei chael hi’n anodd rhedeg cartref, p’un oherwydd salwch neu galedi ariannol, ac mae hynny’n gallu golygu eu bod mewn perygl o fod yn ddigartref.

Rydyn ni wedi ymrwymo’n llwyr i fuddsoddi lle bynnag y bydd hynny’n bosibl i atal y math o niwed sy’n gallu deillio o hynny.

Mae’n bwysig cofio bod annibyniaeth, fel yr hyn sy’n cael ei ddarparu yn Nhŷ Glas y Dorlan, yn lleihau’r pwysau ar ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae’r datblygiad hwn, a’r bobl sy’n byw yma, yn enghraifft wych o bwysigrwydd buddsoddi mewn prosiectau tai arloesol sy’n bodloni anghenion gofal.”

Mae Tŷ Glas y Dorlan yn ddatblygiad sy’n gwneud cyfraniad enfawr i iechyd a llesiant pobl yn Nhorfaen.

Mae’r datblygiad yn ffrwyth y cydweithredu sydd wedi digwydd rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Cymdeithas Tai Bron Afon, a’r trydydd sector. Roedd yn bosibl ei wireddu drwy gymorth grant cyfalaf o £1.7m gan Lywodraeth Cymru o’r Gronfa Gofal Integredig, sydd wedi darparu £145m mewn grantiau ers 2018.

Mae’r datblygiad yn ganolbwynt ar gyfer darparu gofal a gwasanaethau therapiwtig, sy’n cynnwys chwe fflat gofal ychwanegol i bobl sydd ag anghenion cymorth parhaus, yn ogystal ag 13 o fflatiau ail-alluogi ac adsefydlu tymor byr sydd â’u drysau blaen eu hunain.

Mae Tŷ Glas y Dorlan yn gallu darparu cyfleuster cam-i-fyny o’r gymuned er mwyn osgoi sefyllfa lle mae rhywun yn cael ei dderbyn i’r ysbyty, yn ogystal â chynnig cam-i-lawr o’r ysbyty drwy ddarparu lle diogel i adfer, meithrin hyder, a mwyhau cymaint o annibyniaeth â phosibl.

Mae’n amgylchedd lle mae pobl sy’n ystyried gofal preswyl yn gallu cael cymorth i ddysgu sgiliau newydd er mwyn iddynt allu parhau i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.

Meddai Sarah Paxton, Pennaeth Gwasanaethau Oedolion, Tai a Chomisiynu yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen:

“Dim ond ers amser byr mae Glas y Dorlan wedi bod ar agor, ac rydyn ni eisoes yn gweld canlyniadau ffantastig.

Mae’n enghraifft o’r hyn sy’n bosibl pan fydd timau gofal cymdeithasol yn gweithio mewn partneriaeth gydag iechyd, tai, y trydydd sector a Llywodraeth Cymru i alluogi pobl i gyflawni’r hyn sy’n bwysig iddynt.”

%d bloggers like this: