04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

£2 filiwn i wella ystafelloedd aros adrannau damweiniau ac achosion brys

MAE Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £2m i foderneiddio redialed aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys y gaeaf hwn.

Fel rhan o’r gwelliannau, bydd cyfleusterau yn cael eu darparu i bobl eu defnyddio mewn adrannau damweiniau ac achosion brys ysbytai. Bydd y rhain yn cynnwys seddi gwell, sgriniau gwybodaeth, a darpariaeth well o ran dŵr i’w yfed neu orsafoedd bwyd. Bydd Wi-Fi hefyd yn cael ei wella a phwyntiau gwefru yn cael eu darparu ar gyfer offer trydanol.

Mae’r arian hwn yn ychwanegol at y cynlluniau y mae Llywodraeth Cymru, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a llywodraeth leol wedi’u cyflwyno i baratoi ar gyfer y gaeaf. Mae’r rhain yn cynnwys recriwtio 100 o glinigwyr ambiwlans newydd a newid rotas staff er mwyn gwella amseroedd ymateb ambiwlansys.

Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Dyw’r un ohonon ni eisiau mynd i’r ysbyty. Ond, os bydd angen inni fynd, fe ddylai’r buddsoddiad ychwanegol hwn i wella ystafelloedd aros adrannau damweiniau ac achosion brys wneud y profiad ychydig yn haws.”

Daw’r cyhoeddiad wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi heddiw ei chynllun ar gyfer feirysau anadlol tymhorol, gan gynnwys y coronafeirws, yr hydref a’r gaeaf hwn. Mae Ein dull o ymdrin â feirysau anadlol o ran iechyd y cyhoedd yn nodi sut y mae’r Gwasanaeth Iechyd a gwasanaethau gofal yn paratoi cyn y cynnydd y disgwylir ei weld yn y galw yn ystod y tymor.

Mae’r cynlluniau yn cynnwys:

Diogelu’r rheini sydd fwyaf agored i niwed rhag salwch difrifol;

Gweithredu’n gyflym i ymateb i amgylchiadau sy’n newid, gan gynnwys ail-gyflwyno cyngor cryfach, fel gwisgo gorchuddion wyneb a phrofion Covid ychwanegol, os bydd nifer yr achosion yn codi’n sydyn;

Gweithio mewn partneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru i fynd ati i gadw golwg ar feirysau heinous; a

Diogelu’r rheini sy’n wynebu’r risg fwyaf drwy gynnig brechiadau’r ffliw a COVID-19 yn rhad ac am ddim.

Mae rhagdybiaethau cynllunio ar gyfer y gaeaf hwn yn seiliedig ar y rhagdybiaeth y bydd lefelau’r ffliw a feirysau anadlol eraill yn uwch y gaeaf hwn, o’i gymharu â’r ddwy flynedd ddiwethaf. Mae cylchrediad feirysau anadlol – fel y ffliw a’r feirws syncytiol anadlol (RSV) – wedi bod yn is yn ystod y pandemig oherwydd cyfyngiadau cymdeithasol.

Dywedodd y Gweinidog:

“Mae’r gaeaf wastad yn gyfnod prysur a heriol i’n gwasanaethau iechyd a gofal ond rydyn ni’n cynllunio drwy gydol y flwyddyn i sicrhau eu bod mor barod â phosib.

Yn anffodus, nid yw’r pandemig wedi diflannu a dros y pythefnos diwethaf mae cynnydd wedi bod yn nifer y bobl sydd wedi cael eu heintio yn y gymuned, yn ogystal â’r nifer sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty. Brechu yw’r ffordd orau o hyd o amddiffyn ein hunain yn erbyn y coronafeirws a’r ffliw. Mae degau o filoedd o bobl yn cael eu brechu bob wythnos a dyw hi byth yn rhy hwyr i gael eich brechu.

Gallwn ni gymryd ychydig o gamau syml i’n helpu i gadw’n iach y gaeaf hwn – fel golchi dwylo’n aml, gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau dan do lle y mae llawer o bobl yn bresennol ac aros gartref os byddwn ni’n sâl. Os ydyn ni’n gymwys, gallwn ni hefyd gael ein pigiad ffliw blynyddol a’r pigiad atgyfnerthu COVID-19.”

%d bloggers like this: