04/24/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

MAE ymgyrch newydd wedi’i lansio i annog pobl yn Sir Gaerfyrddin i ystyried maethu.

Mae’r Rhwydwaith Maethu wedi amcangyfrif y bydd angen 550 o deuluoedd maeth yng Nghymru i ateb y galw eang.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn un o wyth awdurdod lleol sydd wedi uno i greu #20Rheswm. Mae’r ymgyrch yn defnyddio gofalwyr maeth go iawn a’u cymhellion am faethu i hysbysu ac ysbrydoli mwy o deuluoedd i ystyried gofalu am blentyn neu berson ifanc.

Mae’r 20 rheswm i faethu yn amrywio o wneud gwahaniaeth i fywyd plentyn drwy roi ymdeimlad o gariad, perthyn a sicrwydd iddynt; i fod yn rhan o adeiladu dyfodol cadarnhaol a helpu i gadw plentyn yn eu hardal leol fel y gallant aros yn yr ysgol ac yn agos at eu ffrindiau.

Mae angen pob math o ofalwyr maeth ond yn neilltuol rai a fyddai’n ystyried maethu pobl ifanc yn eu harddegau, gofalwyr therapiwtig, gofalwyr seibiant, gofalwyr argyfwng, grwpiau siblingiaid a phlant gydag anghenion ychwanegol.

Mae Tammy, 36, yn un o’r gofalwyr maeth sy’n cefnogi’r ymgyrch. Bu’n ofalwr maeth am bron saith mlynedd. Ar ôl blynyddoedd o geisio cael eu plentyn eu hunain, dewisodd Tammy a’i phartner gymryd dull gweithredu gwahanol drwy faethu.

Dywedodd Tammy: “Sylweddolais fod cynifer o blant angen cartref cariadus ac roedd gen i gymaint o gariad i’w roi i blentyn felly roedd yn gwneud synnwyr mai dyma sut y gallwn adeiladu ein teulu.

“Mae gen i gwlwm gwirioneddol agos gyda’r holl blant rwyf wedi eu maethu. Mae un o’n plant maeth bellach yn 17 oed ac nid yw’n byw gyda ni erbyn hyn ond mae’n dal i ddod draw am ginio dydd Sul bob wythnos. Mae ein plant maeth hirdymor presennol hyd yn oed yn ein galw yn mam a dad, ac nid oes teimlad gwell na hynny mewn gwirionedd.”

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant: “Nid yw llawer o bobl yn gwybod y sefyllfa go iawn am faethu yn Carmarthenshire o ennill sgiliau a chymwysterau newydd i newid gyrfa a theimlo’r wobr a’r cyflawniad a ddaw maethu. Mae llawer o resymau pam fod pobl yn dewis maethu a gobeithiwn y gallwn ysbrydoli mwy i ddod y rhaff fywyd mae plant a phobl ifanc yn Carmarthenshire ei hangen.

Os ydych chi wedi bod ystyried maethu neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, mae’r tîm recriwtio (maethu) yn cynnal noson wybodaeth ddydd Mercher, 15 Ionawr yng Nghlwb Gweithwyr Cross Hands rhwng 6pm a 8pm; neu i gael rhagor o wybodaeth ewch i maethu.canolbarthagorllewin.cymru/carmarthenshire/ neu ffoniwch 0800 0933 699.

 

Dyma #20Rheswm am faethu yn 2020:

 

1. Gallwch blentyn a gafodd orffennol anodd

2. Byddwch yn helpu i adeiladu dyfodol cadarnhaol

3. Gallwch helpu plentyn i gyrraedd ei botensial llawn

4. Mae maethu yn rhyfeddol a gwerth chweil

5. Cwrdd â phobl ofalgar eraill – yn union fel chi.

6. Gallwch wneud gwahaniaeth yn lleol

7. Dewis pa fath o faethu sy’n iawn i chi.

8. Help i gadw plentyn yn eu hysgol

9. Datblygu sgiliau newydd ac ennill cymwysterau

10. Byddwch yn gwneud gwahaniaeth sy’n parhau am oes

11. Mae’n ffordd wahanol i dyfu eich teulu

12. Dod yn rhan o’n cymuned faethu

13. Byddwch yn fodel rôl cadarnhaol

14. Mae caredigrwydd yn teimlo’n dda

15. Mae gan blant a phobl ifanc angen brys am gymorth

16. Byddwch yn helpu i feithrin hyder plentyn

17. Gallwch newid gyrfa

18. Byddwch yn rhoi cyfle mewn bywyd i blentyn

19. Mae maethu yn rhoi safbwyntiau newydd i chi

20. Byddwch yn rhoi ymdeimlad o berthyn i blentyn

%d bloggers like this: