04/18/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

£228K i gynyddu gorchudd coed a thaclo newid hinsawdd yn Caerdydd

BYDD miloedd o goed newydd yn cael eu plannu ledled Caerdydd diolch i hwb ariannol gan Coed Cadw, y Woodland Trust yng Nghymru.

Bydd Cyngor Caerdydd yn elwa o Gronfa Coed Brys yr elusen, a sefydlwyd i annog awdurdodau lleol i wneud coed yn rhan ganolog o’u polisiau, a rhoi hwb i orchudd coed i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.

Ar ôl derbyn grant o £228,862 mae Cyngor Caerdydd yn edrych i blannu mwy na 800 hectar o orchudd coed dros y degawd nesaf.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, Aelod Cabinet Diwylliant a Hamdden Cyngor Caerdydd:

“Mae sicrhau’r cyllid hwn gan y Woodland Trust yn rhoi hwb gwirioneddol i’n cynlluniau ar gyfer Caerdydd mwy gwyrdd – bydd yn mynd i wneud gwahaniaeth go iawn wrth i ni barhau i weithio tuag at ein gweledigaeth ar gyfer Caerydd Un Blaned carbon-niwtral.

“Ochr yn ochr â gweithredu ar feysydd eraill fel trafnidiaeth, ynni a bwyd, mae plannu mwy o goed yn rhan bwysig o’n hymateb strategol i’r argyfwng hinsawdd. Bydd y cyllid hwn yn ein helpu i wneud yn union hynny, ond mae’n fwy na gêm rifau yn unig, mae hefyd yn ymwneud â phlannu’r coed iawn yn y lleoedd iawn. Dyna pam, yn ogystal â chynyddu nifer y coed rydyn ni’n eu plannu yn sylweddol, byddwn ni hefyd yn defnyddio peth o’r cyllid hwn i helpu i sefydlu meithrinfa goed i sicrhau stoc o goed brodorol a dyfir yn lleol y gallwn eu plannu yn y dyfodol .”

Dywedodd Natalie Buttriss, Cyfarwyddwr Coed Cadw:

“Yn ôl ym mis Hydref 2020, dadorchuddiodd Cyngor Caerdydd ei lasbrint i ddod yn ddinas carbon-niwtral erbyn 2030, a’i uchelgais i gynyddu gorchudd coed trefol o 18.9% i 25%. Nod y Gronfa Coed Brys yw helpu awdurdodau lleol i droi uchelgais o’r fath yn reality.

Er nad yw plannu coed ar ei ben ei hun yn ‘fwled arian’ ar gyfer mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, rydym yn falch o fod yn cefnogi Cyngor Caerdydd i weithredu i nodi tir ar gyfer coed ac i gynyddu gorchudd canopi ledled y ddinas .”

Ymhlith nodau’r Gronfa Coed Brys mae hybu mannau gwyrdd ar gyfer iechyd, plannu coed i amsugno carbon newidiol a brwydro yn erbyn llygredd a chreu strategaethau manwl i gyrraedd targedau carbon sero.

Yn gyfan gwbl, bydd hyd at £3.4 miliwn yn mynd i gynghorau ledled y DU. Mae’n rhan allweddol o nod uchelgeisiol y Woodland Trust a gyhoeddwyd yn ddiweddar i blannu 50 miliwn o goed erbyn 2025.

Meddai John Tucker, Cyfarwyddwr Allgymorth Coetir y Woodland Trust:

“Mae gan yr arian hwn i gynghorau’r DU y pŵer i ysbrydoli cenhedlaeth Newydd mewn plannu coed a symbylu’r angen i drysori coed yn eu cymdogaethau. Mae brwydr y wlad yn erbyn COVID-19 eisoes wedi dangos sut y gall cymunedau ddod ynghyd mewn cyfnod o argyfwng.

Wrth i’r pandemig leihau gobeithio, bydd mynd allan a phlannu coed yn ffordd i’r ysbryd hwn gael ei harneisio unwaith eto mewn ffordd wahanol ond pwysig iawn i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.”

Er mwyn cyflawni y nod o 50 miliwn o goed, mae’r Woodland Trust yn anelu at greu coedwigoedd gyda thirfeddianwyr, llywodraeth leol a chenedlaethol, busnesau a’r cyhoedd. Mae’n bosib ehangu ei Chronfa Coed Brys pe bai hyn yn llwyddiant.

%d bloggers like this: