04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

£265m cael eu wario dros pedair blynedd nesaf ar wella tai cyngor Abertawe

BYDD o leiaf £58m yn cael ei wario yn y flwyddyn i ddod ar osod ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd, boeleri ynni-effeithlon a chyfleusterau eraill a fydd yn gwella bywydau teuluoedd bob dydd.

Bydd tenantiaid sy’n byw yn fflatiau Croft Street yn Nyfaty yn gweld o leiaf £18.4m yn cael ei wario ar eu cartrefi, gan gynnwys gwaith uwchraddio y tu mewn, ailwampio ardaloedd cymunedol yn ogystal â gwelliannau i leihau costau gwresogi a thanwydd i denantiaid.

Dywedodd Andrea Lewis, Dirprwy Arweinydd ar y Cyd ac Aelod y Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a Thrawsnewid Gwasanaethau, fod y cyngor yn bwriadu gwario £265m dros bedair blynedd ar dai cyngor i wneud gwelliannau o bwys a fydd hefyd yn creu ac yn diogelu swyddi a phrentisiaethau lleol.

Am Hysbysu Yma

Cysylltwch a ni heddiw

Ni anfonir spam. Byddwn mewn cysylltiad tu fewn 24awr
Byddwn mewn cysylltiad

Meddai:

“Mae cael lle diogel, fforddiadwy a chyfforddus i’w alw’n gartref yn hanfodol ar gyfer bywyd teuluol hapus a diogel, yn enwedig i’n plant.

“Drwy fuddsoddi mewn tai rydym yn buddsoddi mewn mwy na brics a morter yn unig – rydym yn cynnig y cyfle i bobl wneud y gorau o’u bywydau a’u cyfleoedd, ac rydym yn gwneud hynny drwy ddarparu cartrefi addas, fforddiadwy i’w rhentu.

“Drwy fuddsoddi mewn tai cyngor rydym yn buddsoddi yn nyfodol y ddinas.”

Bydd prosiectau gwella tai yn parhau ar dai cyngor mewn cymunedau o Glydach i West Cross ac o Townhill a Mayhill i Sgeti a Portmead.

Ar ben y £9m a wariwyd yn y flwyddyn gyfredol, bydd £5m arall yn cael ei wario yn y pedair blynedd nesaf ar osod ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd yn y tai cyngor hynny nad ydynt wedi’u cael eisoes.

Bydd bron £19m yn cael ei wario eleni ar gynlluniau diddosi cartrefi rhag y gwynt a thywydd garw, gyda £12m arall yn cael ei wario ar adeiladu cenhedlaeth newydd o dai fforddiadwy i’w rhentu sy’n ynni-effeithlon ac sy’n cadw biliau tanwydd yn isel.

Dywedodd Cyng. Lewis:

“Mae Cyngor Abertawe’n ymrwymedig i adeiladu 1,000 o gartrefi newydd mewn degawd. Bydd y rhain yn gartrefi sy’n addas ar gyfer y dyfodol ac yn fforddiadwy i’w rhentu. Rydym eisoes wedi cwblhau gwaith adeiladu ar gartrefi arobryn newydd ym Mharc yr Helyg a Collier’s Way.

“Cyn bo hir byddwn yn croesawu tenantiaid i ragor o gartrefi yn Hillview a Beaconsview.”

“Dros y degawd nesaf, byddwn yn parhau i wella effeithlonrwydd ynni’n cartrefi i leihau allyriadau carbon. Mae ein hymrwymiad i gartrefi gwell wedi creu cannoedd o swyddi i’n cymunedau a bydd yn parhau i wneud hynny. Drwy wella cartrefi’n rydym yn adeiladu gwell Abertawe.”

Daw’r arian ar gyfer y cartrefi newydd a’r gwelliannau ar gyfer y cartrefi sydd eisoes yn bodoli o’r rhent a delir gan y tenantiaid, grantiau gan Lywodraeth Cymru a benthyca Cyfrif Refeniw Tai. Ni ddaw unrhyw ran o’r arian o dreth y cyngor.

%d bloggers like this: