Mae trefi a phentrefi ar draws Castell-nedd Port Talbot yn mynd i elwa o werth £4.3m o welliannau i dwtio ac adfywio ardaloedd cyhoeddus mewn cymunedau lleol.
Rhoddodd aelodau o Fwrdd Cabinet Strydlun a Pheirianneg y cyngor olau gwyrdd i’r pecyn o wariant yn eu cyfarfod ddydd Gwener (Mawrth 18 2022).
Mae’r prosiectau gwella yn cynnwys cynlluniau gosod wyneb newydd ffyrdd a llwybrau troed eang, prosiectau draenio hanfodol, adnewyddu dodrefn stryd, llochesi bws newydd, diogelwch ar y ffyrdd a mesurau gostegu traffig ynghyd â gwaith ar bontydd.
Mae’r prosiectau’n rhan o Raglen Waith y cyngor ar gyfer 2022/23, a bydd pob ward yng Nghastell-nedd Port Talbot yn elwa.
Gellir gweld rhestr lawn o’r gwariant arfaethedig ar wefan y cyngor.
Gellir geld beth sydd wedi’i glustnodi ar gyfer pob ardal yma: https://democracy.npt.gov.uk/documents/s78226/App%20A%20-%20Urgent%20-%20Works%20Programme%202022%2023.pdf
Yn ogystal, bydd dros £2m yn mynd ar waith hanfodol arall ledled Castell-nedd Port Talbot fel ymdrin â llithriadau tir, marcio heolydd, tacluso cylchfannau, ailosod hen oleuadau mewn tanffyrdd, gwaith draenio a gosod meinciau newydd yn lle hen rai mewn parciau a llecynnau agored.
Yn ôl y Cynghorydd Mike Harvey, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Strydlun a Pheirianneg:
“Rydyn ni wir eisiau carco ein hamgylchedd ac mae’r adborth o’r ymgynghoriad Gawn Ni Sgwrsio wedi cadarnhau fod hyn hefyd yn flaenoriaeth i bobl sy’n byw ac yn gweithio yn y fwrdeistref sirol.
“Fel rhan o’n cynllun corfforaethol ‘Adfer, Ailosod, Adnewyddu’ fe wnaethon ni addo i helpu ‘gwella, glanhau a glasu’ cymunedau ledled y fwrdeistref sirol.”
“Bydd chwistrellu dros £4m i gyfres o raglenni gwella cymunedol yn diweddaru ein hisadeiledd, yn gwneud ein heolydd yn saffach, ac yn adeiladu ar yr un pryd ar yr ymdeimlad cryf iawn o gymuned sydd gyda ni yma yng Nghastell-nedd Port Talbot.”
More Stories
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant
Yn eisiau! Ffermwr brwd, galluog a chymwys, wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, ar gyfer cyfle i ffermio cyfran yng Ngorllewin Cymru
Dros 1500 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o £161m