04/16/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

£4.5m i wneud Gofalu yn “weladwy a’i werthfawrogi a’i gefnogi”

MAE Julie Morgan, Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyhoeddi buddsoddiad o £4.5 miliwn i Gronfa Gymorth i Ofalwyr dros y tair blynedd nesaf. Sefydlwyd y Gronfa Gymorth i Ofalwyr, a weinyddir gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, yn 2020 ac mae wedi helpu dros 10,000 o ofalwyr ar incwm isel i brynu eitemau hanfodol y mae arnynt eu hangen.

Medd y Gweinidog”

Yn ystod Wythnos Gofalwyr, rwyf bob amser yn falch iawn o dynnu sylw at y gofal a’r ymroddiad y mae cymaint o ofalwyr yn eu darparu ledled Cymru. Rwy’n credu hefyd ei bod yn adeg briool i Lywodraeth Cymru amlinellu’r camau y mae’n eu cymryd i gefnogi gofalwyr di-dâl.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes balch o weithio gyda gofalwyr di-dâl a’u cefnogi ond rydym yn awyddus i wneud mwy – ers mis Ionawr 2022 rydym wedi dyrannu dros £42 miliwn o gyllid ychwanegol i helpu gofalwyr di-dâl o bob oed a chefndir.

Mae’r Gronfa hefyd wedi helpu i nodi nifer sylweddol o ofalwyr nad oeddent yn hysbys i wasanaethau cyn hynny – mewn rhai ardaloedd roedd 70% o’r ymgeiswyr yn ofalwyr anhysbys yn flaenorol – y ffigur cyfartalog ar draws Cymru yw 29%. Nid yw’r cymhwystra ar gyfer y grantiau yn gysylltiedig â hawl i fudd-dal.

Fis diwethaf, fe wnaethom fuddsoddi £29 miliwn i roi taliad untro o £500 i 57,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru. Gall gofalwyr di-dâl a oedd yn derbyn Lwfans Gofalwr ar 31 Mawrth 2022 nawr gofrestru gyda’u hawdurdod lleol i hawlio’r taliad. Mae’r cyfnod cofrestru yn gorffen ar 15 Gorffennaf.

Yn aml mae angen i bobl sydd â chyfrifoldebau gofalu gymryd seibiant i gael ymlacio a chanolbwyntio ar eu lles eu hunain. Er mwyn darparu mwy o gyfleoedd i ofalwyr di-dâl ‘gymryd amser i’w hunain’, mae £9 miliwn ar gael dros dair blynedd i sefydlu cynllun seibiant byr cenedlaethol. Rydym wedi gwahodd sefydliadau’r trydydd sector sydd ag arbenigedd mewn cefnogi gofalwyr i gyflwyno datganiad o ddiddordeb ar gyfer y rôl corff cydgysylltu cenedlaethol er mwyn goruchwylio’r cynllun ac annog arloesi.

Yn olaf, am y tro cyntaf bydd Cymru yn cynnal Gŵyl Gofalwyr Ifanc ei hun yr haf hwn. Bydd yr ŵyl yn cynnig cyfle i ofalwyr ifanc gyfarfod a siarad â’u cyfoedion a chael tridiau o ymlacio a hwyl.

Mae’r gefnogaeth ariannol sydd wedi’i hamlinellu uchod yn dangos bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella bywydau gofalwyr di-dâl ac yn anfon neges glir i bawb bod gofalwyr di-dâl yng Nghymru yn hollbwysig ac yn weladwy a’u bod yn cael eu cydnabod a’u gwerthfawrogi.”

%d bloggers like this: