03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

£420k sicrhau prydau ysgol am ddim i ddysgwyr sy’n hunanwarchod neu’n hunanynysu

BYDD Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod pob disgybl sydd â hawl i brydau ysgol am ddim yn parhau i’w derbyn os ydynt yn hunanwarchod neu’n gorfod hunanynysu, diolch i £420,000 a gadarnhawyd gan y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams.

Mae cynnal y ddarpariaeth prydau ysgol am ddim wedi bod yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru wrth ymateb i bandemig y coronafeirws.

Pan gyhoeddodd y Gweinidog ei bod am gau ysgolion ddydd Mercher, Mawrth 18, rhoddodd sicrwydd yn fuan y byddai £7m ar gael i awdurdodau lleol i sefydlu mesurau i ofalu bod plant sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim yn parhau i gael manteisio ar y cynllun hwn.

Yna, ar Ebrill 22, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i warantu cyllid i blant er mwyn iddynt barhau i gael prydau ysgol am ddim hyd at a chan gynnwys diwedd gwyliau’r haf.

Dywedodd y Gweinidog Addysg:

“Mae’n hollbwysig bod plant sy’n cael prydau ysgol am ddim yn gallu parhau i gael y cymorth hwn, p’un a ydyn nhw yn yr ysgol neu gartref am eu bod yn hunanwarchod neu’n hunanynysu.

“Rydyn ni wedi gweithio’n ddiflino eleni i ymateb i bandemig y coronafeirws a’r heriau di-ri sydd wedi dod yn ei sgil, ond dydyn ni ddim wedi, a wnawn ni ddim anghofio’r rheini y mae’r ysgol yn gymaint mwy iddyn nhw na lleoliad addysg yn unig.”

Dywedodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James:

“Mae sicrhau bod plant yn dal i allu cael prydau ysgol am ddim, p’un a ydyn nhw yn adeilad yr ysgol ai peidio, wedi bod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ac mae’r cyhoeddiad hwn yn ailgadarnhau’r ymrwymiad.

Bydd y cyllid hwn yn caniatáu i awdurdodau lleol ofalu nad yw un plentyn yn colli’r gwasanaeth hollbwysig yma, a byddaf yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau eu bod yn gallu cyflawni’r gwasanaeth allweddol hwn ac ymateb i’r pandemig.”

%d bloggers like this: