04/20/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

4,350 tunnell o wastraff wedi’u hailgylchu oherwydd casgliadau bagiau porffor Cyngor Pen-y bont

MAE dros 4,350 tunnell o nwyddau hylendid amsugnol wedi eu hatal rhag gorfod cael eu rhoi i mewn i safleoedd tirlenwi, ac wedi cael eu hailgylchu yn rhan o gynllun ‘bagiau porffor’ Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Ers 2017, mae preswylwyr sydd wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth casglu nwyddau hylendid amsugnol wedi ailgylchu oddeutu 1,000 tunnell y flwyddyn o eitemau amrywiol o glytiau plant, weips, papur toiled a bagiau stoma, i badiau anymataliaeth oedolion, dillad gwely amsugnol, menig plastig, ffedogau tafladwy a llawer mwy.

Wedi iddo gael ei gasglu o ymyl y ffordd mewn bagiau porffor arbennig, mae’r gwastraff yn cael ei gludo i safle Nappicycle yn Rhydaman er mwyn ei brosesu, lle mae’r holl ddeunyddiau y mae modd eu hailgylchu yn cael eu hadfer. Caiff ffibrau cellwlos clytiau ei ailgylchu i fod yn fyrddau ffibr a phaneli acwstig, tra bod y plastigau’n cael eu hanfon i gael eu hail-brosesu ymhellach a’u hailgylchu.

Defnyddir y bagiau porffor i helpu partneriaid gwastraff y cyngor, Kier, i wahaniaethu rhwng mathau gwahanol o ddeunyddiau. Drwy ailgylchu’r cynnyrch hyn yn hytrach na’u rhoi nhw allan gyda’r gwastraff cyffredinol, gall preswylwyr fanteisio i’r eithaf ar yr uchafswm o ddau fag o wastraff gweddilliol.

Dim ond nwyddau hylendid amsugnol ddylid eu rhoi yn y bagiau porffor, oherwydd ni fydd criwiau’n eu casglu os ydynt wedi’u halogi gan eitemau eraill. Nid yw’r gwasanaeth yn cynnwys nwyddau hylendid menywod, ac fe ddylid gwaredu’r rhain yn rhan o’r casgliadau pob pythefnos ar gyfer gwastraff y cartref nad oes modd ei ailgylchu.

Mae’r gwasanaeth bagiau porffor hefyd yn rhedeg pob pythefnos, a bydd yn cael ei gasglu ar yr un diwrnod â’r gwastraff nad oes modd ei ailgylchu. Os na fydd aelwyd yn cyflwyno bagiau i’w casglu dair gwaith yn olynol mewn cyfnod o chwe wythnos, tybir na fydd angen y gwasanaeth arnynt mwyach, ond gallent ail-gofrestru ar unrhyw adeg.

Ceir rhagor o fanylion ar  wefan Ailgylchu dros Pen-y-bont ar Ogwr (External link – Opens in a new tab or window)

%d bloggers like this: