04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

700 o blant gorymdeithio yn Hwlffordd Dydd Gŵyl Dewi

DISGWYLIR y bydd 700 o blant o Hwlffordd a thu hwnt yn gorymdeithio drwy strydoedd y dref yfory, Mawrth 1af, ar gyfer parêd i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.

Bydd y parêd, sy’n cael ei threfnu gan Gyngor Sir Penfro a Fforwm Iaith Sir Benfro, yn dechrau am 10yb o’r maes parcio y tu ôl i hen lyfrgell y sir ar Stryd Dew. Bydd yr arbennig Samba Doc yn arwain y parêd i lawr y Stryd Fawr, trwy Stryd y Bont ac ar draws yr Hen Bont, yn ôl trwy Stryd y Cei, ac yna’n gorffen yn Neuadd y Sir ar gyfer jamborî awyr agored dan arweiniad Sian Elin Williams.

Am Hysbysu Yma

Cysylltwch a ni heddiw

Ni anfonir spam. Byddwn mewn cysylltiad tu fewn 24awr
Byddwn mewn cysylltiad

Mae yna hefyd gystadleuaeth addurno ffenestr siop gyda thlws draig arbennig ar gyfer yr arddangosfa fuddugol.

Eleni bydd y parêd hefyd yn cynnwys baner Dydd Gŵyl Dewi Sir Benfro sydd fel arfer yn cael ei harddangos yn barhaol yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi.

Gwahoddir y cyhoedd i wylio’r parêd gyda’u baneri a gwisgoedd Cymreig. Yn dilyn yr orymdaith, bydd lluniaeth a Chawl ar gael i’w prynu yn Haverhub.

%d bloggers like this: