04/17/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

£8m ar gyfer ymestyn gwasanaethau cymorth cyflogaeth

MAE’R Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle, wedi cyhoeddi heddiw bod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi bron i £8m er mwyn i dri gwasanaeth cyflogaeth allu parhau i helpu pobl sy’n adfer o afiechydon corfforol, problemau iechyd meddwl, a phroblemau camddefnyddio sylweddau i gael gwaith ac i barhau yn eu swyddi.

Bydd y Gwasanaeth Di-waith a’r Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith, sy’n helpu pobl i ailadeiladu eu bywydau, yn cael eu hymestyn hyd at 2025.

Mae’r Gwasanaeth Di-waith yn helpu’r bobl fwyaf agored i niwed a’r rheini sydd wedi ymbellhau o’r farchnad lafur. Mae’n canolbwyntio ar roi cymorth tymor hir i bobl sy’n adfer o broblemau iechyd meddwl a phroblemau camddefnyddio sylweddau. Mae’r gwasanaeth yn darparu cymorth drwy rwydwaith cenedlaethol o fentoriaid sydd wedi mynd drwy brofiadau tebyg eu hunain, ac sydd wedi adfer ar ôl cael problemau iechyd meddwl neu gamddefnyddio sylweddau.

Ar ôl cael ei lansio gyntaf ym mis Awst 2016, mae’r gwasanaeth wedi helpu dros 4,000 o bobl i ennill cymhwyster neu dystysgrif sy’n gysylltiedig â gwaith, dros 2,400 i chwilio am waith, dros 1,600 i gael gwaith, ac 1,700 i wella eu rhagolygon o gael swydd drwy fanteisio ar leoliadau gwaith neu ar gyfleoedd i wirfoddoli.
Bydd £1.3m yn mynd tuag at ehangu’r Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith, sy’n darparu mynediad am ddim at ffisiotherapi, seicotherapi, a chymorth galwedigaethol i bobl sydd â chyflyrau iechyd corfforol a phroblemau iechyd meddwl. Mae’n chwarae rôl hanfodol drwy helpu pobl i barhau yn eu swyddi, a’u hatal rhag gorfod mynd yn absennol o’u gwaith oherwydd cyflwr iechyd meddwl neu gyflwr corfforol. Mae hefyd yn helpu’r rheini sydd eisoes ar absenoldeb salwch i ddychwelyd i’r gwaith yn gynt.

Mae’r gwasanaethau wedi darparu cymorth i bobl yng Ngwynedd, Ynys Môn, Conwy a Sir Ddinbych, yn ogystal ag yn ardal Bae Abertawe, gan ehangu’n ddiweddar i gynnwys ardaloedd Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.

Mae 60% o’r rheini sydd wedi defnyddio’r gwasanaeth wedi dweud bod eu hiechyd wedi gwella ers iddynt geisio cyngor.

Yn sgil cynnal cynllun peilot llwyddiannus, bydd cyllid yn cael ei roi i ymestyn y prosiect cymorth ar gyfer lleoliadau unigol, ‘Fedra i Weithio’ yn y Gogledd. Mae’r gwasanaeth yn darparu cymorth iechyd a chyflogadwyedd integredig i bobl sy’n adfer o broblemau iechyd meddwl, gan eu helpu i gael swydd. Mae’n canolbwyntio’n benodol ar bobl 16-24 oed.

Mae gweithio i sicrhau nad yw pobl yn cael eu hatal rhag cael swydd, ac nad ydynt yn gorfod gadael eu swydd oherwydd cyflwr iechyd, yn elfennau hollbwysig o Gynllun Sgiliau a Chyflogaeth Llywodraeth Cymru
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle:

“Bydd y cyllid a gyhoeddwyd heddiw yn ymestyn tri gwasanaeth cymorth cyflogaeth sydd eisoes wedi bod o fudd mawr i bobl drwy eu helpu i ddysgu sgiliau hanfodol, meithrin hyder, ennill cymwysterau a chael swydd.

Ni ddylai unrhyw un gael ei ddal yn ôl gan afiechyd. Mae’r tri gwasanaeth yn helpu’r rheini sy’n chwilio am waith neu sydd eisoes mewn swydd, ac maen nhw hefyd yn codi ymwybyddiaeth ymysg busnesau y dylai amgylcheddau gwaith gefnogi pobl sydd â phroblemau iechyd – problemau iechyd meddwl neu broblemau iechyd corfforol. Dw i hefyd yn falch y bydd y cynlluniau’n helpu’r rheini sy’n gwella o broblemau camddefnyddio sylweddau drwy sicrhau eu bod nhw hefyd yn cael mwy o gyfle i gael gwaith.

Rydyn ni eisoes wedi helpu miloedd o bobl, a dwi wrth fy modd y bydd ymestyn y tri chynllun yn creu’r cyfle i helpu mwy o bobl ledled Cymru i wireddu eu potensial.”

Meddai Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

“Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o wneud popeth o fewn ei gallu i helpu i sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl, bod neb yn cael ei ddal yn ôl, a bod pob unigolyn yn cael y cyfle i wireddu ei botensial.

Mae’n gwbl hanfodol helpu pobl i allu aros yn eu swydd, neu i gael swydd yn y lle cyntaf, neu i gael swydd well, ac ennill sgiliau er mwyn ei gwneud yn haws iddyn nhw gael gwaith. Mae’r cymorth hwn yn ehangu’r cyflenwad o dalent sydd ar gael, yn helpu pobl i gael gwaith teg, ac yn eu helpu i lwyddo yn y farchnad lafur.

Dw i’n croesawu’n fawr y newyddion y bydd y tri phrosiect gwych hyn yn cael eu hymestyn gan ddarparu’r cymorth y mae ei angen i fwy o bobl, a’u helpu i gyflawni eu huchelgeisiau o ran cael gwaith ac addysg.”

%d bloggers like this: