04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

£9.5m gyfer Canolfan Arloesi newydd i gefnogi Cymru i ddod yn arweinydd byd-eang ym maes Seiberddiogelwch

CYHOEDDODD Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, y bydd Canolfan Arloesi Seiber newydd i helpu Cymru i ddod yn arweinydd byd-eang yn y sector yn weithredol yn hwyrach eleni, diolch i fuddsoddiad o £3 miliwn gan Lywodraeth Cymru.

Bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud buddsoddiad o £3 miliwn yn y Ganolfan newydd dros ddwy flynedd, gyda £3 miliwn o gyllid ar y cyd gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd a £3.5 miliwn o arian cyfatebol o fath arall gan bartneriaid y consortiwm.

Gwnaeth y Prif Weinidog y cyhoeddiad yn ystod diwrnod cyntaf Cynhadledd Seiberddiogelwch fawr – CYBERUK 2022. Mae’r gynhadledd, sy’n cael ei rhedeg gan y Ganolfan Seibrddiogelwch Genedlaethol – rhan o GCHQ, yn cael ei chynnal yng Nghasnewydd yr wythnos hon.

Mae’r Ganolfan Arloesi Seiber newydd yn cael ei harwain gan Brifysgol Caerdydd gyda phartneriaid yn cynnwys Airbus, Alacrity Cyber, CGI, Thales NDEC, Tramshed Tech, a Phrifysgol De Cymru.

Y gobaith yw y bydd y Ganolfan Arloesi newydd yn hyfforddi mwy na 1,000 o unigolion seibr-fedrus ac yn datblygu’r sector seibr-ddiogelwch yng Nghymru fwy na 50% erbyn 2030.

Mae 51 o fusnesau sy’n gysylltiedig â seiber wedi’u lleoli yng Nghymru, sy’n cyflogi 4% o weithwyr proffesiynol seiberddiogelwch y DU.

Bydd creu’r ganolfan newydd yn newid sylweddol i ragoriaeth seiberddiogelwch yng Nghymru i weithredu gyda’i gilydd mewn gweithgareddau cydgysylltiedig sy’n seiliedig ar glystyrau. Bydd yn dod â diwydiant, llywodraeth a phartneriaid academaidd at ei gilydd i ddatblygu sector seiberddiogelwch Cymru, gan alluogi Cymru i fanteisio ar dwf disgwyliedig y sector yn y DU, ac yn fyd-eang, drwy fuddsoddi mewn dull cydgysylltiedig o ymdrin â sgiliau, arloesi a chreu mentrau newydd.

Erbyn 2030, nod y Ganolfan yw:

Datblygu’r sector seiberddiogelwch yng Nghymru fwy na 50% o ran nifer y busnesau;

Denu mwy nag £20 miliwn mewn buddsoddiad ecwiti preifat i ddatblygu tua 50% o’r busnesau hymn;

Wedi hyfforddi mwy na 1,000 o unigolion seiber-fedrus.

Oherwydd y dull gweithredu cydgysylltiedig a’r màs critigol a grëwyd, bydd y Ganolfan yn dod yn bartner busnes craidd i sefydliadau seiberddiogelwch mawr yn natblygiad “Cyber Park” Cheltenham, y DU ehangach, a gweddill y Byd.

Bydd y Ganolfan yn helpu i ddenu ac angori’r dalent seiberddiogelwch orau yng Nghymru, a fydd hefyd o fudd i’r economi sylfaenol leol.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

“Mae Llywodraeth Cymru yn falch o gyd-ariannu cenhadaeth Hwb Arloesedd Seiber i drawsnewid Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn un o glystyrau seiber mwyaf blaenllaw’r DU erbyn 2030.

Mae’r pandemig wedi amlygu pa mor bwysig yw arloesi ym maes seiber o ran cefnogi a diogelu rhannu gwybodaeth tra’n cynnig data a mewnwelediad i helpu i gadw’r rhanbarth i symud a thyfu.”

Meddai Gweinidog Llywodraeth y DU, David TC Davies:

“Rwy’n falch iawn o weld y ganolfan newydd fyd-eang hon yn agor gyda chefnogaeth fel rhan o fuddsoddiad £375m Llywodraeth y DU i fargen Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Bydd hyn yn dod â swyddi a thwf i’r ardal yn ogystal â rhoi Cymru wrth galon y diwydiant seiberddiogelwch.”

Dywedodd Chris Ensor Dirprwy Gyfarwyddwr Twf Seiber, y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol:

“Mae’r Ganolfan Arloesi Seiber (CIH) yn ychwanegiad i’w groesawu i ecosystem seibr-ddiogelwch sydd eisoes yn drawiadol yn Ne Cymru, gan ddod â manteision nid yn unig i’r ardal leol ond i’r DU gyfan. Mae’r NCSC yn edrych ymlaen at gefnogi’r CIH ar ei daith o sbarduno trawsnewid a thwf arloesi seiber.”

Ychwanegodd Kellie Beirne, Cyfarwyddwr Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd:

“Rydym yn falch iawn o fod yn cyd-ariannu’r fenter newydd arloesol hon sy’n hanfodol i dwf y sector seibr-ddiogelwch yn y rhanbarth a byddwn yn creu mantais gystadleuol i’r CCR yn erbyn rhanbarthau eraill y DU. Mae Prifysgol Caerdydd a PDC yn cael eu cydnabod gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (rhan o GCHQ) fel Canolfannau Rhagoriaeth Academaidd mewn ymchwil ac addysg.

Mae eu gwaith yn sail i ymchwil arloesol sydd wedi arwain at gwmnïau deillio a busnesau bach a chanolig ac wedi’u trosi’n fusnesau mwy. Mae hyn yn creu cadwyn gyflenwi gref a chynaliadwy yng Nghymru, sy’n cael ei chydnabod a’i gwerthfawrogi gan ei busnesau a’i phartneriaid gwasanaethau cyhoeddus sydd hefyd â rhan sylweddol yn nyfodol y sector hwn. Mae cael y cynhwysion hyn yn ein gwneud yn ecosystem seiberddiogelwch ragorol yn genedlaethol.”

Medd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd:

“Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru a CCR, mae Prifysgol Caerdydd yn awyddus i chwarae rhan allweddol mewn clwstwr sy’n cyd-fynd â’n strategaeth arloesi, gan ysgogi partneriaethau masnachol a sector cyhoeddus hirsefydlog i ddatblygu heriau a arweinir gan y farchnad, darparu Eiddo Deallusol, hyrwyddo seiber-gynhyrchion newydd a chwmnïau twf uchel, a datblygu cronfa dalent sy’n bwydo’n uniongyrchol i’r clwstwr.”

%d bloggers like this: