04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Abertawe cofio’r rheini a ddioddefodd hil-laddiadau ledled y byd.

BYDD cymunedau, ysgolion, grwpiau lleol a sefydliadau eraill yn ymuno â Chyngor Abertawe ar 27 Ionawr ar gyfer y digwyddiad blynyddol Diwrnod Coffáu’r Holocost.i goffáu’r rheini sydd wedi colli eu bywydau oherwydd hil-laddiad.

Eleni, yn dilyn ymgynghoriad â grwpiau perthnasol, cynhelir digwyddiadau coffáu Abertawe yn rhithwir yn hytrach nag yn bersonol, i helpu i gadw pobl yn ddiogel ac atal ymlediad COVID-19.

Fe’i harweinir gan grwpiau cymunedol lleol, ysgolion a sefydliadau eraill ar ffurf darllediad fideo gyda’r hwyr ar 27 Ionawr.

Meddai Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe:

“Mae 27 Ionawr yn nodi’r diwrnod ym 1945 pan gafodd Auschwitz, gwersyll difa’r Natsïaid yng Ngwlad Pwyl, ei ryddhau, ynghyd â’r carcharwyr a oedd ar ôl. Llofruddiwyd miliynau yno ac mewn mannau eraill ar draws Ewrop oherwydd eu hunaniaeth.

“Mae Diwrnod Coffáu’r Holocost wedi dod yn ddigwyddiad coffáu i’r rheini sydd wedi dioddef a marw o ganlyniad i hil-laddiad, gan gynnwys mewn lleoedd fel Darfur, Cambodia, Rwanda a Bosnia.

“Yn Abertawe rydym yn cynnau canhwyllau bob blwyddyn i nodi eu colled. Rydym yn adrodd ac yn ailadrodd straeon bob blwyddyn oherwydd, drwy rannu’r digwyddiadau hyn, rydym yn cofio ac yn herio’n hunain i sefyll yn erbyn gormes o’r fath a’i hatal rhag digwydd eto.”

Dywedodd Alyson Pugh, Aelod Cabinet ar y Cyd Cyngor Abertawe dros Gefnogi Cymunedau y gall preswylwyr dalu eu teyrnged unigol eu hunain ar y diwrnod drwy gynnau cannwyll yn eu ffenestri am 8pm.

Meddai:

“Ym mhob cwr o’r byd bydd pobl yn cynnau canhwyllau yn eu ffenestri ar Ddiwrnod Coffáu’r Holocost. Felly, er na fyddwn yn sefyll ochr yn ochr, byddwn yn sefyll gyda’n gilydd i ddangos parch ac i gofio.

“Bydd Cyngor Abertawe hefyd yn goleuo Neuadd y Ddinas yn borffor ar 27 Ionawr fel rhan o’n digwyddiad coffáu dinesig ar gyfer y rheini y mae hil-laddiad wedi effeithio arnynt.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Louise Gibbard, Cyd-Aelod y Cabinet dros Gefnogi Cymunedau:

“Mae’n hanfodol nad ydym yn anghofio’r Holocost a digwyddiadau eraill o hil-laddiad sy’n bwrw cysgod tywyll ar ddynoliaeth.

“Mae’n wir dweud bod y rheini sy’n anghofio hanes yn sicr o’i ailadrodd. Dyna pam mae Diwrnod Coffáu’r Holocost yn ddigwyddiad cymunedol pwysig yn Abertawe. Mae’n dod â phobl o bob ffydd, y rheini heb fydd ac aelodau cymunedau eraill ar draws y byd sydd wedi cael eu croesawu i Abertawe ac sy’n parhau i adeiladu cartref yma, at ei gilydd.”

Caiff y fideo coffaol sy’n cynnwys negeseuon gan ysgolion, sefydliadau cymunedol ac eraill ei ddarlledu ar-lein am 6pm ar 27 Ionawr. Bydd manylion ynghylch sut i’w wylio yn cael eu rhyddhau yn agosach at y diwrnod.

%d bloggers like this: