03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Ad-daliadau Llog Benthyciadau Cymorth i Brynu yn cael eu Gohirio dros dro

MAE Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd ad-daliadau llog yn cael eu gohirio dros dro ar gyfer cwsmeriaid Cymorth i Brynu sy’n dioddef straen ariannol o ganlyniad i’r coronafeirws, meddai’r Gweinidog Tai, Julie James.

Yn sgil y cyhoeddiad, os bydd cwsmeriaid yn cael eu heffeithio gan y coronafeirws ac yn colli incwm o ganlyniad, ni fydd angen iddynt wneud ad-daliadau llog ar fenthyciad Cymorth i Brynu am gyfnod o dri mis.

Ar hyn o bryd mae 619 o gwsmeriaid sy’n talu llog yn rhan o’r cynllun yng Nghymru.

Dywedodd y Gweinidog Tai, Julie James:

“Bydd y camau rwy’n eu cymryd heddiw yn helpu cannoedd o gwsmeriaid Cymorth i Brynu, sydd o bosib yn dioddef effaith y coronafeirws, i ddygymod â chaledi ariannol annisgwyl.

“Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud popeth o fewn ei gallu i helpu pobl Cymru yn y cyfnod anodd sydd ohoni.”

%d bloggers like this: