03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Addunedau diogelwch cymunedol wrth i fyfyrwyr ddychwelyd i Aberystwyth

MAE Prifysgol Aberystwyth wedi lansio pump ‘adduned gymunedol’ fel rhan o’i chynlluniau i sicrhau diogelwch myfyrwyr, staff a’r gymuned ehangach wrth iddi baratoi i groesawu myfyrwyr yn ôl yn ddiweddarach y mis hwn.
Mae addunedau’r Brifysgol yn nodi pum pwynt i fyfyrwyr, staff a chymuned ehangach y dref. Y pum pwynt yw:

Cadw arferion glendid da – golchi’n dwylo’n rheolaidd; Cadw’n pellter – dilyn y canllawiau; Gwybod pwy sy’n gwmni i ni – mae profi ac olrhain cysylltiadau yn achub bywydau; Gwarchod y rhai sydd o’n cwmpas – gwisgo gorchudd wyneb os gofynnir i ni, a hefyd Parchu’n gilydd – bod yn garedig.

Daw’r addunedau ar ben mesurau diogelwch cynhwysfawr mae’r Brifysgol eisoes wedi eu cyflwyno.
Mae’r rhain yn cynnwys cyflwyno systemau un ffordd, newid cynllun ystafelloedd dosbarth ac arwyddion, yn ogystal â threfniadau glanhau a hylendid gwell gan gynnwys darparu gorsafoedd hylif diheintio dwylo a glanhau rheolaidd o arwynebau sy’n cael eu cyffwrdd yn aml.

Yn ogystal, mae’r Brifysgol wedi ail-strwythuro’i hamserlen ddysgu er mwyn cefnogi ymbellhau cymdeithasol, ac olrhain cysylltiadau mewn cydweithrediad â’r cyngor a’r bwrdd iechyd lleol, ac yn disgwyl i holl staff, myfyrwyr ac ymwelwyr wisgo gorchudd wyneb tra dan do ar holl safleoedd y Brifysgol.

Hefyd ers dechrau’r pandemig mae’r Brifysgol wedi bod yn gweithio gydag ystod eang o bartneriaid lleol a chenedlaethol er mwyn cadw nifer yr achosion o’r haint yn isel yng Ngheredigion, gan gynnwys darparu adnoddau i’r bwrdd iechyd lleol a chyflenwi offer diogelwch personol. Mae’r Brifysgol wedi cynllunio ar gyfer dychweliad graddol myfyrwyr y mis hwn, gan gynnwys darpariaeth arbennig ar gyfer myfyrwyr sydd angen hunan-ynysu unwaith y byddant wedi cyrraedd Aberystwyth.

Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, Elizabeth Treasure:

“Wrth i ni ddod â dysgu yn ôl i’r campws ym mis Medi, ein blaenoriaeth yw sicrhau lles a diogelwch ein myfyrwyr, staff a’r gymuned ehangach. Mae’r Brifysgol wedi bod yn gweithio’n galed iawn ers sawl mis i addasu ein campws a’n gweithgareddau yn sgil y pandemig byd-eang. Mae’r mesurau cynhwysfawr yn cynnwys glanhau ychwanegol, sicrhau ymbellhau cymdeithasol, olrhain cysylltiadau a disgwyl i bawb wisgo gorchudd wyneb dan do ar safleoedd y Brifysgol. Cyflwynwyd yr addasiadau wedi i ni gynnal rhaglen eang o asesiadau risg er mwyn adnabod a lliniaru risgiau.

“Mae’r trefniadau manwl hyn wedi cael eu datblygu mewn cydweithrediad agos gyda chynrychiolwyr Undeb y Myfyrwyr ynghyd â thrafodaethau gyda Chyngor Sir Ceredigion, Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid ar draws y DU. Ers dechrau’r pandemig presennol, mae diogelwch wedi bod ar flaen ein meddylia a bydd yn parhau felly am y flwyddyn academaidd newydd.”

Mae’r ymrwymiadau newydd wedi cael eu cefnogi gan Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, cynrychiolwyr Undeb y Myfyrwyr, a Maer Aberystwyth.

Dywedodd Y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion:

“Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi bod yn gweithio’n agos gyda Phrifysgol Aberystwyth dros y misoedd diwethaf i sicrhau bod trefniadau ar waith i groesawu myfyrwyr yn ôl i’r Sir yn ddiogel. Rydym yn cefnogi’r amrywiaeth o fesurau diogelwch y mae Prifysgol Aberystwyth wedi’u rhoi ar waith yn ogystal â’r ‘addewidion cymunedol’ er mwyn i’r myfyrwyr ddychwelyd a dod yn rhan o’r gymuned yn Aberystwyth unwaith eto. Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda Phrifysgol Aberystwyth dros y misoedd nesaf i sicrhau diogelwch y myfyrwyr a diogelwch y gymuned leol.”

Ategodd Charlie Kingsbury, Maer Tref Aberystwyth:

“Rwy’n hynod o ddiolchgar i’r gwaith caled mae’r Brifysgol wedi’i wneud i sicrhau bod myfyrwyr yn dychwelyd yn ddiogel i Aberystwyth. Mae mesurau synhwyrol, sydd yn ymwybodol o risg yn hanfodol wrth i ni groesawu myfyrwyr yn ôl, ac mae gen i bob hyder yn ymrwymiad y Brifysgol i gefnogi iechyd cymuned Aberystwyth.”

Dywedodd Nate Pidcock, Llywydd Undeb Myfyrwyr Aberystwyth;

“Mae’r ymrwymiadau hyn yn rhan bwysig o becyn o addasiadau sydd yn cael eu gwneud yn sgil y pandemig. Gyda myfyrwyr yn dychwelyd yn raddol i’r campws, mae’r newidiadau hyn yn mynd i fod yn rhywbeth newydd i bawb. Rydyn ni’n mynd i wneud ein gorau glas, ochr yn ochr â phartneriaid eraill, i sicrhau bod myfyrwyr yn ymwybodol o’r normal newydd hwn. Rydyn ni i gyd yn mynd i wneud popeth y gallwn ni i weithio gyda’n gilydd er mwyn diogelu holl bobl a chymunedau Aberystwyth a Cheredigion.”

 

%d bloggers like this: