04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Adeilad newydd Archifau Sir Gâr yn paratoi i agor

MAE paratoadau ar y gweill i agor adeilad newydd Archifau Sir Gâr a bydd y casgliad cyntaf yn cyrraedd o’r storfa yr wythnos hon.

Dychwelwyd achres hanesyddol teulu Vaughan i Sir Gaerfyrddin yr wythnos hon i gael ei storio’n barhaol yn y cyfleuster pwrpasol newydd gwerth £2.2 miliwn yng nghefn Llyfrgell Caerfyrddin.

Mae casgliadau archifau Sir Gaerfyrddin wedi’u cadw y tu allan i’r sir ers 2014 wrth i’r gwaith adeiladu gael ei wneud.

Mae’r ddogfen, sy’n dyddio’n ôl i’r 17eg ganrif, yn dangos hanes teulu Syr Richard Vaughan o wreiddiau brenhinol gan gynnwys Hywel Dda, Rhodri Mawr a Gwilym Goncwerwr.

Am Hysbysu Yma

Cysylltwch a ni heddiw

Ni anfonir spam. Byddwn mewn cysylltiad tu fewn 24awr
Byddwn mewn cysylltiad

Dros y misoedd nesaf bydd cannoedd o gofnodion hanesyddol yn cael eu dychwelyd i Sir Gaerfyrddin i’r adeilad newydd o’r radd flaenaf a disgwylir y bydd y casgliad cyflawn wedi cyrraedd erbyn diwedd y gwanwyn.

Mae gan yr adeilad un o’r strwythurau sy’n perfformio orau yn y wlad.

Gyda’i ddyluniad ynni-effeithlon, mae’r adeilad yn lleihau’r ynni sydd ei angen i gynnal amodau storio ac yn sicrhau bod y casgliad yn parhau i gael ei ddiogelu hyd yn oed os bydd pŵer yn cael ei golli.

Mae’r adeilad wedi’i rannu dros dri llawr ac mae’n cynnwys ystafell chwilio gyda seddau i 10 cwsmer a bwrdd map, dwy ystafell ddiogel, ystafell gadwraeth, ystafell ynysu, ystafelloedd catalogio ac ystafell lanhau ar gyfer archwilio dogfennau sydd newydd gyrraedd.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth:

“Rwyf wrth fy modd ein bod yn gallu croesawu ein casgliad hanesyddol yn ôl i’r man lle mae’n perthyn. Unwaith y bydd ein casgliad cyflawn yn ôl yn Sir Gaerfyrddin byddwn yn gweithio tuag at ennill statws archif achrededig a fydd yn rhoi cydnabyddiaeth genedlaethol o ragoriaeth o fewn y sector.”

Mae Gwasanaeth Archifau Sir Gâr yn gartref i gofnodion Cyngor Sir Caerfyrddin a’i gyrff rhagflaenol a chofnodion a adneuwyd gan sefydliadau ac unigolion o bob rhan o ardal y cyngor sy’n dyddio o’r 13eg ganrif hyd heddiw.

Disgwylir i’r cyfleuster archifau newydd agor ddiwedd y gwanwyn.

%d bloggers like this: