03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Adolygiad Annibynnol o Wasanaethau Newyddenedigol yn Ysbyty’r Tywysog Siarl, Merthyr Tudful

MAE Eluned Morgan Gweinidog Iechyd wedi cyhoeddi canfyddiadau’r adolygiad annibynnol o wasanaethau newyddenedigol yn Ysbyty’r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful.

Mewn datganiad dywedodd y Gweinidog Iechyd:

“Hoffwn ddiolch i’r Panel Trosolwg Annibynnol ar Wasanaethau Mamolaeth a’r tîm sy’n cynnal adolygiad manwl o’r gwasanaethau newyddenedigol am y gwaith sylweddol a gwblhawyd ganddynt yn ystod yr wyth mis diwethaf er mwyn sicrhau darlun mor gynhwysfawr o’r gwasanaethau, a’r gwelliannau sydd eu hangen. Hoffwn hefyd ddiolch i’r holl deuluoedd am roi o’u hamser gan rannu eu profiadau a chyfrannu at yr adolygiad pwysig hwn.

Roedd yr adolygiad yn cynnwys ymarferion gwrando ar deuluoedd, sgyrsiau â staff a rhanddeiliaid, adolygiad o dystiolaeth ddogfennol, ac adolygiad o’r gofal clinigol a roddwyd i nifer o fabanod a dderbyniwyd i’r uned newyddenedigol yn Ysbyty’r Tywysog Siarl yn ystod 2020.

Am Hysbysu Yma

Cysylltwch a ni heddiw

Ni anfonir spam. Byddwn mewn cysylltiad tu fewn 24awr
Byddwn mewn cysylltiad

Bydd Aelodau yn ymwybodol bod y panel wedi codi pryderon ynghylch yr uned ym mis Medi 2021. Rhoddwyd gwybod i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg am ganfyddiadau interim y panel er mwyn sicrhau bod camau gweithredu yn cael eu rhoi ar waith yn syth ac yn y tymor byr wrth i’r adolygiad barhau.

Mae’r camau gweithredu sydd wedi’u cwblhau hyd yma er mwyn sicrhau gwelliant yn cynnwys penodi dau ymgynghorydd ychwanegol, a rhoi trefniadau diwygiedig yn eu lle er mwyn sicrhau bod pobl beichiog yn cael eu symud yn brydlon pan fyddant angen cael eu cyfeirio at wasanaethau arbenigol. Yn ogystal, mae cysylltiadau gwaith agosach wedi’u datblygu â chanolfannau trydyddol er mwyn cefnogi penderfyniadau clinigol yn rheolaidd pan fo angen.

Mae’r adolygiad wedi’i gwblhau erbyn hyn. Mae’r gwaith wedi archwilio holl elfennau’r gwasanaeth newyddenedigol yn fanwl gan sicrhau ffynhonnell ddysgu werthfawr i’r bwrdd iechyd, a sefydliadau eraill y GIG yng Nghymru.

Mae’r panel wedi adnabod rhai cryfderau i’w datblygu gan y gwasanaeth a’r bwrdd iechyd, yn arbennig y staff gofalgar ac ymroddedig ar bob lefel sydd wedi ymrwymo i’r gwasanaeth newyddenedigol a’i ddatblygiad parhaus.

Mae’r panel hefyd wedi amlinellu ystod eang o argymhellion mewn perthynas â:

Meithrin cysylltiadau â theuluoedd a’u cefnogi;

Y gweithlu;

Casglu, dadansoddi, archwilio ac adrodd ar ddata;

Prosesau llywodraethu a sicrwydd;

Ymarfer clinigol a dysgu o ddigwyddiadau;

Diwylliant a chysylltiadau tîm;

Ymarfer myfyriol.

Mae’r argymhellion hyn wedi’u derbyn ac wedi’u croesawu gan y bwrdd iechyd er mwyn cefnogi’r gweithgareddau gwelliant helaeth sy’n mynd rhagddynt eisoes, ac er mwyn cynorthwyo’r bwrdd i gyflawni newidiadau cynaliadwy.

Mae’r adroddiad yn nodi’n glir na ellir ystyried y gwasanaeth newyddenedigol yn Ysbyty’r Tywysog Siarl ar ei ben ei hun. Yn ogystal â’r ffaith bod y gwasanaeth wedi’i gysylltu’n anorfod â’r gwasanaethau mamolaeth a’r bwrdd iechyd ehangach, mae’n rhaid i’r gwasanaeth weithredu’n effeithiol o fewn y rhwydweithiau mamolaeth a newyddenedigol ehangach, yn ogystal â chydweithio â byrddau iechyd cyfagos.

Mae’r adroddiad hefyd yn cynnig ychydig o argymhellion Cymru gyfan. Bydd y rhaglen Cefnogi Diogelwch mewn Gofal Mamolaeth a Newyddenedigol a lansiais ar 24 Ionawr yn mynd ati i weithredu ar yr argymhellion pwysig hyn. Bydd y rhaglen yn sicrhau dulliau clir a chyson ar gyfer diogelwch mamolaeth a newyddenedigol ymhob gwasanaeth yng Nghymru. Bydd y rhaglen hefyd yn adeiladu ar waith blaenorol a gwblhawyd, er enghraifft adolygiadau gan gymheiriaid a gwblhawyd gan y Rhwydwaith Mamolaeth a Newyddenedigol Cymru Gyfan, a’r adolygiadau annibynnol o wasanaethau cludo babanod newydd-anedig a gomisiynwyd gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru.

Byddwn yn parhau i gydweithio â’r GIG er mwyn gwella gwasanaethau a sicrhau bod pob person beichiog, eu babanod a’u teuluoedd yn cael gofal mamolaeth a gofal newyddenedigol o ansawdd uchel ledled Cymru.”

%d bloggers like this: