03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Adroddiad arolygiad o wasanaethau cymdeithasol Cyngor Caerdydd yn gadarnhaol

MAE adroddiad wedi’i gyhoeddi am yr arolygiad diweddar o Wasanaethau Cymdeithasol Cyngor Caerdydd a gynhaliwyd gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).

Wedi’i gynnal ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2020, edrychodd yr arolygiad ar ba mor dda y mae’r gwasanaethau cymdeithasol plant wedi gwneud cynnydd o ran gwella, a pha mor dda y mae’r gwasanaethau cymdeithasol yn gyffredinol yn parhau i helpu a chefnogi plant ac oedolion.

Roedd yr arolygiad yn canolbwyntio ar dri thrywydd ymholi allweddol: yn gyntaf, pa mor dda y mae’r Cyngoryn cyflawni ei swyddogaethau statudol i gadw pobl yn ddiogel a hyrwyddo lles yn ystod y pandemig; yn ail, pa mor dda y mae’r Cyngoryn darparu cymorth, gofal a chymorth cynnar, a phrosesau pontio di-dor rhwng gwasanaethau i blant anabl a’u teuluoedd; ac, yn drydydd, yr hyn sy’n cael ei wneudi atal yr angen i blant ddod i ofal.

Mae AGC yn cydnabod bod uwch reolwyr ac aelodau arweiniol wedi cyflwyno diwylliant newydd o ddisgwyliadau a safonau uwch mewn gofal cymdeithasol, a bod yr awdurdod lleol, trwy weithio mewn partneriaeth, yn ymgysylltu â’i holl adrannau a phartneriaid perthnasol eraill i hyrwyddo canlyniadau lles. Mae’n nodi bod y partneriaethau strategol hyn wedi datblygu gydag uchelgais gyffredin o wella’r ddarpariaeth o wasanaethau di-dor a chynaliadwy cymaint â phosibl, a bod Aelodau’r Cabinet ar gyfer gwasanaethau oedolion a phlant yn wybodus, yn deall y newidiadau sydd eu hangen i sicrhau cynaliadwyedd gwasanaethau, ac yn canolbwyntio ar wella canlyniadau i bobl.

Mae’r adroddiad yn cydnabod bod y Cyngor, yn ystod y pandemig, wedi dangos bod angen newid ac addasu gwasanaethau i adlewyrchu heriau sydd newydd eu nodi. Mae hyn yn cynnwys yr angen am arbenigedd iechyd meddwl yn y gwasanaethau oedolion a’r gwasanaethau plant. Roedd hefyd yn cydnabod bod technoleg newydd yn cael ei defnyddio’n greadigol i fynd i’r afael ag unigrwydd ac allgáu cymdeithasol, er enghraifft roedd Swyddogion Ymgysylltu’r Gwasanaethau Byw’n Annibynnol yn cefnogi pobl i ddefnyddio dyfeisiau digidol i gadw mewn cysylltiad, ac yn y gwasanaethau plant mae adolygiadau rhithwir a gynhelir trwy ddefnyddio llwyfannau cyfryngau cymdeithasol wedi helpu i ymgysylltu â phobl ifanc.

Canfu’r tîm arolygu nad oedd unrhywfaterion amddiffyn plant neu ddiogelu i’w codia bod lleihau nifer y plant sy’n derbyn gofal yn ddiogel wedi cael ei gydnabod fel blaenoriaeth gan yr awdurdod lleol. Mae’r gwaith o foderneiddio’r Gwasanaeth Maethu yn parhau gyda’r nod o wella canlyniadau i blant a phobl ifanc, ac mae’r gwaith o recriwtio gofalwyr maeth yn barhaus wedi cynyddu nifer ac amrywiaeth y lleoliadau mewnol.

Meddai’r Cynghorydd Graham Hinchey, yr Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoedd, Cyngor Caerdydd,

“Mae’r adroddiad hwn yn cydnabod y ffordd y mae’r Gwasanaethau Plant wedi cael eu hadlunio i ganolbwyntio ar ymyrraeth gynnar ac atal, a bod gwasanaethau fel y Ganolfan Cymorth Cynnar a Gwasanaeth Rhianta Caerdydd wedi’u datblygu i sicrhau bod gwasanaethau’n dod at ei gilydd i roi’r cymorth cywir i’r bobl iawn ar yr adeg iawn.”

“Cydnabu’r arolygwyr gyfeiriad strategol clir Caerdydd ar gyfer y gwasanaethau oedolion a’r gwasanaethau plant. Er bod y ffordd y mae cymorth yn cael ei roi mewn ymateb i’r pandemig wedi creu heriau, mae ein timau wedi bod yn rhagweithiol ac yn arloesol o ran eu dull gweithredu ac rydym yn parhau i nodi cryfderau a’r meysydd hynny y mae angen eu gwella.”

Amlygodd yr arolygiad enghreifftiau cadarnhaol o ddulliau amlasiantaeth o reoli risg a thimau amlddisgyblaeth yn cydweithio yn ystod y pandemig i rannu data a gwybodaeth, gan sicrhau bod y risgiau i bobl â’r anghenion mwyaf cymhleth yn cael eu rheoli. Nodwyd bod perthynas dda ac effeithiol â’r Heddlu, y Bwrdd Iechyd, Addysg a’r trydydd sector wedi galluogi datblygu partneriaethau strategol effeithiol rhwng gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a all wneud y defnydd gorau posibl o adnoddau a sicrhau gwell canlyniadau i bobl.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles, y Cynghorydd Susan Elsmore:

“Mae adroddiad AGC yn rhoi darlun cytbwys o’r gwasanaethau cymdeithasol, a sut mae’r Cynghorydd Hinchey a finnau, ochr yn ochr ag uwch arweinwyr, yn gyrru diwylliant o ragoriaeth o fewn y gwasanaethau cymdeithasol i godi safonau a sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu darparu sy’n bodloni canlyniadau sy’n bwysig i bobl.  O ran y gwasanaethau oedolion, mae’r adroddiad yn gadarnhaol gan nodi llawer o gryfderau. Byddwn yn ymateb i’r gwendidau y nodwyd bod angen eu gwella fel rhan o’n cynlluniau gwella.”

%d bloggers like this: