03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

“Adroddiad damniol” ar addysgu o gartref yng Nghymru yn “anhygoel o siomedig” meddai Plaid

MAE ymchwil newydd “ddamniol” gan Goleg Prifysgol Llundain sydd wedi datgelu ffigurau ymgysylltu ‘anhygoel’ o isel rhwng disgyblion Cymru a’u hysgolion yn “hynod siomedig” yn ôl Plaid Cymru.

Mae’r ymchwil yn dangos mai dim ond 2% o blant yng Nghymru sy’n derbyn pedair neu fwy o wersi ar-lein bob dydd (y ffigur isaf yn y DU), o’i gymharu â 12.5% ​​yn Llundain a 7% fel cyfartaledd y DU. O ran gwaith all-lein, dangosodd y ffigurau mai dim ond 14.6% o blant Cymru oedd yn derbyn 4 gwers all-lein neu fwy y dydd (y ffigur ail isaf yn y DU), o’i gymharu â 25.2% o blant yng Ngogledd Iwerddon a 27.7% yn Ne Ddwyrain Lloegr.

Roedd ffigurau Cymru yn wael yn enwedig o gymharu â De Ddwyrain Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Dywedodd Gweinidog Addysg yr Wrthblaid Plaid Cymru, Sian Gwenllian AS, fod yr ymchwil wedi tynnu sylw at ba mor “aneffeithiol” oedd mesurau addysg gartref, a bod y bwlch cyrhaeddiad rhwng plant o’r cefndiroedd mwyaf breintiedig a’r cefndiroedd mwyaf difreintiedig yn ehangu.

Nododd Ms Gwenllian, er mai un arolwg oedd hwn gyda sampl gyfyngedig, fod yr ymchwil yn dangos darlun pryderus iawn o addysg yng Nghymru yn ystod yr argyfwng coronafeirws – sy’n cael ei hatgyfnerthu gan dystiolaeth ar lawr gwlad.

Aeth ymlaen i ddweud fod angen i Lywodraeth Cymru “weithredu’n gyflym” i liniaru’r effeithiau trwy gasglu data pellach i ddarganfod gwir raddfa’r broblem ac i gynllunio “ymyriadau addas”. Dywedodd fod casglu’r data hwn yn hanfodol i sefydlu cynrychiolaeth lawn a dibynadwy o addysg yng Nghymru yn ystod yr amser hwn, a bod hi wedi syfrdanu nad oedd y math hwn o ddata eisoes wedi’i gasglu er mwyn gosod targedau effeithiol.

Ychwanegodd Gweinidog Addysg yr Wrthblaid dylai’r Llywodraeth gynnal ymchwil drylwyr gan edrych ar gysylltedd digidol, cyswllt rhwng disgyblion a’u hysgolion, a’r amser y mae disgyblion yn eu treulio yn dysgu gartref. Dywedodd Ms Gwenllian y dylai’r data hwn lywio ymyriadau pwrpasol tymor byr a thymor hir, ochr yn ochr â chefnogaeth wedi’i thargedu i’r “cymunedau mwyaf difreintiedig” i fynd i’r afael â’r materion yr oedd ymchwil UCL wedi’u hamlygu.

Dywedodd Sian Gwenllian

“Mae canlyniadau’r ymchwil hon yn paentio darlun anhygoel o siomedig ac wedi tynnu sylw at ba mor aneffeithiol y mae mesurau addysg gartref wedi bod ar y cyfan. Mae miloedd o blant yn cael eu gadael ar ôl, ac mae’r bwlch cyrhaeddiad rhwng y rhai o’r cefndiroedd mwyaf breintiedig a’r rhai o’r cefndiroedd mwyaf difreintiedig ond wedi ehangu.

“Cyfaddefodd y Prif Weinidog ei hun yr wythnos diwethaf na fu unrhyw gyswllt â’u hysgol i lawer o blant ac efallai bod eu profiad o ddysgu o bell “wedi bod yn gymysg”. Os yw’n gwybod maint llawn y broblem – pam nad yw’n gweithredu, yn hytrach na brwsio’r broblem o dan y carped?

“Mae’r Alban wedi buddsoddi llawer mwy i sicrhau fod gan ddisgyblion fynediad at offer digidol o gymharu â Chymru, ac yn ddiweddar wedi ymrwymo £30 miliwn yn ychwanegol at yr hyn y maent eisoes wedi’i fuddsoddi – o’i gymharu â’r £3 miliwn a neilltuwyd yng Nghymru. Dylid edrych ar frys ar flaenoriaethau rhaglen gysylltedd Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau nad yw cysylltedd digidol yn rhwystr i blant difreintiedig a’u haddysg.

“Mae angen mwy o ddata, mwy o ymchwil, a mwy o dryloywder arnom ar frys. Mae’n anhygoel nad yw Llywodraeth Cymru eisoes yn casglu data ac yn gosod targedau. Mae angen i ni wybod faint o ddisgyblion sydd heb liniadur personol neu fynediad cywir i’r rhyngrwyd. Mae angen i ni wybod faint o ddisgyblion sy’n mewngofnodi i’w haddysg – a faint sydd heb gyswllt o gwbl. Mae data cywir ar yr agweddau hyn yn fater o flaenoriaeth fel y gall Llywodraeth Gymru roi cynllun gweithredu cadarn ar waith.”

%d bloggers like this: