04/24/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

‘Aelwydydd Cymru £600 y flwyddyn waeth eu byd’ medd adroddiad newydd

BYDD aelwydydd Cymru £600 y flwyddyn yn waeth eu byd ar gyfartaledd yn sgil cynnydd mewn prisiau ynni a chyfraddau threthi, hyd yn oed ar ôl i fesurau i gynorthwyo â chostau byw gael eu rhoi ar waith, yn ôl dadansoddiad newydd Canolfan Llywodraethiant Cymru.
 
Mae’r papur briffio (https://cardiff.us3.list-manage.com/track/click?u=0d4d960f143e97b34536912ce&id=06ce7412b3&e=ec27c8d0d2) , gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd, yn dangos mai’r cartrefi tlotaf fydd yn cael eu taro galetaf a bydd codiadau mewn prisiau yn cyfyngu ymhellach ar eu gallu i brynu nwyddau a gwasanaethau hanfodol.
 
Fis diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod yn dyrannu bron i £340 miliwn tuag at fesurau costau byw – llawer mwy hael na rhannau eraill o’r DG. Ond mae ymchwilwyr yn rhagweld y bydd angen cymorth pellach hwyrach yn ystod y misoedd nesaf.
 

Am Hysbysu Yma

Cysylltwch a ni heddiw

Ni anfonir spam. Byddwn mewn cysylltiad tu fewn 24awr
Byddwn mewn cysylltiad
 
Dyma a ddywedodd awdur yr adroddiad, Cian Siôn, sy’n rhan o Dîm Dadansoddi Cyllid Cymru:
 
“Er gwaetha’r ymyriadau gan lywodraethau’r DG a Chymru, mae cyfuniad o bwysau chwyddiant, cynnydd mewn cyfraddau treth a thwf araf mewn incwm yn golygu bod aelwydydd yn y DG yn wynebu’r wasgfa fwyaf o ran safonau byw ers degawdau.
 
“Mae’r datblygiadau pryderus yn Wcráin wedi cynyddu’r tebygolrwydd y bydd prisiau ynni’n parhau’n uchel. Er y bydd y mesurau a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DG yn lleddfu’r effaith ar aelwydydd i ryw raddau, ac mae’r cymorth ychwanegol wedi’i dargedu a gyhoeddodd Llywodraeth Cymru wedi helpu i ffrwyno’r effaith ar y rheiny ar yr incwm isaf, bydd aelwydydd o bob incwm yn dal i fod yn waeth eu byd y gwanwyn hwn.”
 
Mae llywodraethau’r DG a Chymru wedi cyhoeddi mesurau i helpu i liniaru effaith prisiau cynyddol – yn enwedig cost gynyddol ynni – ar aelwydydd.
 
Mae’r rhain yn cynnwys Cynllun Gostyngiad Bil Ynni Llywodraeth y DG yn ogystal ag ystod o gynlluniau gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys ad-daliadau’r dreth gyngor, cymorth tanwydd gaeaf a chronfeydd dewisol i’r rheiny sy’n wynebu caledi ariannol.
 
Ond gan ddefnyddio model buddion treth, mae ymchwilwyr wedi cyfrifo y byddan nhw, hyd yn oed ar ôl ystyried y cymorth hwn ar gyfer aelwydydd,£600 y flwyddyn ar gyfartaledd ar eu colled o fis Ebrill ymlaen. Nid yw’r dadansoddiad hwn yn ystyried cost gyffredinol nwyddau a gwasanaethau – sydd hefyd ar fin cynyddu – yn ogystal â chynnydd pellach i’r cap ar brisiau ynni yr hydref nesaf.
 
Ym mis Ionawr, cyrhaeddodd cyfradd Chwyddiant Prisiau Defnyddwyr (CPI) 12 mis 5.5%, i fyny o 5.4% yn ystod y 12 mis hyd at fis Rhagfyr 2021. Mae Banc Lloegr bellach yn disgwyl i gyfradd y CPI gyrraedd ei huchafbwynt uwchlaw 7% yng ngwanwyn 2022, sef ei lefel uchaf ers tri degawd.
 
Ychwanegodd Cian Siôn:
 
“Mae’r misoedd nesaf yn mynd i fod yn heriol a bydd y pwysau hyn yn taro’r rheiny ar yr incwm tlotaf fwyaf. Gwyddom, hyd yn oed cyn y codiadau diweddar mewn prisiau, fod aelwydydd â’r incymau tlotaf yn gwario mwy na dwywaith cymaint ar dai a biliau fel cyfran o’u hincwm gwario nag aelwydydd ar yr incymau uchaf.
 
“Yn ogystal â hyn, mae cryn ansicrwydd o hyd ynghylch pa mor uchel fydd y gyfradd chwyddiant ar ei hanterth ac i ba raddau y bydd y cynnydd mewn prisiau yn effeithio ar bob agwedd o’n bywydau. Os bydd prisiau yn parhau’n uchel am gyfnod hir heb dwf real mewn incwm, efallai nad dyma’r tro olaf y bydd gofyn i lywodraethau ymyrryd i helpu gyda chostau byw.”
 

%d bloggers like this: