ROEDD Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, ymhlith y rheini a oedd yn bresennol yn agoriad swyddogol arena Abertawe sydd â lle i 3,500 o bobl ddydd Iau 3 Mawrth.
Mae’n golygu y bydd aelodau’r cyhoedd yn gallu cerdded a beicio ar draws y bont newydd sy’n croesi Oystermouth Road o ddydd Gwener 4 Mawrth wrth i’r paratoadau terfynol barhau i gael eu gwneud ar y safle.
Bydd cyntedd yr arena a’r swyddfa docynnau hefyd yn agor yr wythnos nesaf wrth i’r lleoliad baratoi ar gyfer perfformiad y digrifwr, John Bishop, yno ar 15 Mawrth.
Ac mewn hwb pellach i’r cyrchfan newydd, cynhelir agoriad pwysig ar gyfer y parc arfordirol 1.1 erw yn y dyfodol agos. Mae hyn yn golygu y bydd y parc bellach yn agor i’r cyhoedd ar ôl y digwyddiad hwnnw, ynghyd â’r maes parcio oddi tano, a’r cyfan cyn perfformiad John Bishop yn arena Abertawe.
Mae Cyngor Abertawe’n datblygu ardal cam un Bae Copr gyda chefnogaeth y rheolwyr datblygu, RivingtonHark. Buckingham Group Contracting Ltd sy’n arwain y gwaith adeiladu. Cefnogwyd y cyngor hefyd gan ei ymgynghorwyr eiddo, Carter Jonas.
Meddai’r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe:
Mae agoriad swyddogol cam un Bae Copr yn cyflawni’n haddewid i bobl Abertawe. Mae hyn yn dangos nad dinas o argraffau arlunydd yw Abertawe – rydym yn trawsnewid y ddinas gyda rhaglen fuddsoddiad gwerth £1bn.
“Bydd Bae Copr yn creu cyrchfan hamdden newydd a channoedd o swyddi a chyfleoedd i bobl leol gan helpu i gefnogi busnesau lleol ac arwain at fwy o ymwelwyr a gwariant ar gyfer canol ein dinas.
“Rydym wedi cyflwyno’r cynllun hwn yn ystod pandemig, felly mae pawb a fu’n rhan ohono’n haeddu clod enfawr – o staff y cyngor a phartneriaid ariannu i’n contractwyr ac Ambassador Theatre Group, a fydd yn gweithredu’r arena ar ein rhan ac yn dod ag adloniant o’r radd flaenaf i Abertawe.
“Mae Bae Copr sy’n werth £17.1m y flwyddyn i economi Abertawe, eisoes yn gweithredu fel catalydd ar gyfer rhagor o swyddi a buddsoddiad, gan olygu bod Abertawe mewn sefyllfa dda i adfer o effaith economaidd COVID.
“Mae’n rhan allweddol o stori adfywio gwerth £1bn sy’n datblygu yn Abertawe, sy’n trawsnewid ein dinas yn un o’r goreuon yn y DU i fyw, gweithio, astudio ac ymweld â hi.”
Mae elfen yr arena o gam un Bae Copr wedi’i hariannu’n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe – buddsoddiad o £1.3bn mewn naw rhaglen a phrosiect mawr ar draws Dinas-ranbarth Bae Abertawe. Ariennir y bont newydd dros Oystermouth Road yn rhannol gan Lywodraeth Cymru drwy’r fenter Teithio Llesol.
Dywedodd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru:
“Mae’n gyfnod cyffrous iawn ar gyfer adfywiad Abertawe ac rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu buddsoddi yn y prosiectau hyn a fydd yn cynyddu’r cysylltedd rhwng canol y ddinas a’r glannau ac yn darparu Abertawe â chyfleuster o’r radd flaenaf a fydd yn cynyddu ei gallu i gynnal digwyddiadau chwaraeon, diwylliannol a busnes pwysig. Hoffwn longyfarch yr holl bartneriaid am gyflwyno’r prosiect hwn mewn amgylchiadau mor anodd.”
Meddai Gweinidog Llywodraeth y DU, David TC Davies:
“Mae Bae Copr yn ychwanegiad rhagorol at Abertawe ac rwyf wrth fy modd bod Llywodraeth y DU wedi cyfrannu £13.7m at y prosiect. Bydd yn denu ymwelwyr ac yn darparu cyrchfan hamdden gwych i breswylwyr Abertawe. A bydd yn cefnogi swyddi a chyfleoedd wrth i ni adfywio’n gryfach ar ôl pandemig COVID.
“Mae prosiectau fel hyn yn dangos yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei olygu wrth siarad am Godi’r Gwastad ac mae’n golygu bod gan Abertawe ddyfodol gwych.
“Hoffwn ddiolch i’n holl bartneriaid am y gwaith caled sydd wedi’i wneud yn y prosiect arbennig hwn.”
Bydd nodweddion eraill cam un Bae Copr, gan gynnwys y maes parcio newydd ar ochr canol y ddinas o Oystermouth Road, y datblygiad fflatiau gerllaw a’r unedau busnes newydd ar Cupid Way yn agor yn y misoedd i ddod. Bydd maes parcio aml-lawr Dewi Sant yn aros ar agor ac yn gweithredu yn y cyfamser.
More Stories
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant
Yn eisiau! Ffermwr brwd, galluog a chymwys, wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, ar gyfer cyfle i ffermio cyfran yng Ngorllewin Cymru
Dros 1500 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o £161m