04/23/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Ailachredu Ysgol Fabanod Tŷ Isaf Risca gyda Gwobr Ansawdd Genedlaethol Ysgolion Iach

MAE Ysgol Fabanod Tŷ Isaf wedi llwyddo i gael ailachrediad Gwobr Ansawdd Genedlaethol Ysgolion Iach.

Y Wobr Ansawdd Genedlaethol yw’r achrediad uchaf y mae ysgol yn gallu ei gyflawni trwy Gynlluniau Ysgolion Iach – Rhwydwaith Cymru, sy’n cael ei gynnal gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.

Mae’r Tîm Ysgolion Iach yn gweithio gyda disgyblion, athrawon, rhieni ac ystod o bartneriaid i wella iechyd cymunedau ysgol gyfan. Y prif nod yw cynorthwyo ysgolion i ddatblygu dull ysgol gyfan at iechyd trwy ei waith mewn 7 maes allweddol:

Bwyd a Ffitrwydd; Iechyd a Lles Meddyliol ac Emosiynol; Datblygiad Personol a Pherthnasoedd; Yr Amgylchedd; Defnyddio a Chamddefnyddio Sylweddau; Diogelwch a Hylendid.

Dywedodd Mrs Bain, Pennaeth Ysgol Fabanod Tŷ Isaf:

“Rwy’n falch iawn bod Ysgol Fabanod Tŷ Isaf wedi cyflawni’r wobr hon. Mae’r staff a’r disgyblion wedi gweithio’n galed dros y ddwy flynedd ddiwethaf i gynnal safonau ysgolion iach. Yn Ysgol Fabanod Tŷ Isaf rydym yn canolbwyntio ar gael calonnau a meddyliau hapus ac iach. Mae lles disgyblion a staff o’r pwys mwyaf i’n hysgol anogol a gofalgar. Rydym yn falch o’n cysylltiadau cymunedol cryf a’n perthnasoedd cadarnhaol â’n teuluoedd.”

Meddai’r Cynghorydd Ross Whiting, Aelod Cabinet dros Addysg a Chyflawniad:

“Llongyfarchiadau i bawb dan sylw am y cyflawniad gwych a haeddiannol hwn. Mae Ysgol Fabanod Tŷ Isaf wedi dangos ymrwymiad a chysondeb i ffyniant yr ysgol a’r gymuned gyfan.”

%d bloggers like this: