Mae Gŵyl Banc Awst bron yma ac mae’n edrych fel y bydd yn heulog ac yn gynnes am y penwythnos hir sydd i ddod. Dros yr ychydig wythnosau diwethaf, bu cynnydd dramatig mewn achosion covid yng Ngheredigion, yn enwedig mewn ardaloedd arfordirol.
Mae’r lefelau ar hyn o bryd yn dangos nifer yr achosion ar 255.9 fesul 100,000 o’r boblogaeth, gydag Aberteifi ar 304.1 fesul 100,000; Ceinewydd a Penbryn ar 395.6 a De Aberystwyth ar 313.8. Mae pob ardal o Geredigion yn uwch na 200 fesul 100,000 o’r boblogaeth sy’n bryder ac mae’n dangos bod y feirws yn lledaenu’n gyflym yn y gymuned, yn enwedig ymhlith y rhai rhwng 10 a 29 oed.
Disgwylir i nifer yr achosion gynyddu ymhellach dros y dyddiau nesaf ac mae’n anochel y bydd ein trefi arfordirol yn brysurach na’r arfer a bydd lleoedd yn orlawn. Felly, os ydych chi’n partio gartref neu’n mynd ‘allan allan’, gwnewch y gorau y gallwch i gyfyngu ar y tebygrwydd o ddal covid trwy:
Olchi’ch dwylo’n rheolaidd.
Gwisgwch fasg wyneb, yn enwedig mewn lleoedd gorlawn, ar drafnidiaeth gyhoeddus neu mewn siopau.
Cadwch eich pellter. Er bod y rheol 2m wedi dod i ben, mae gan fusnesau’r hawl i gadw at gyfyngiadau tebyg i helpu i gadw eu staff a’u cwsmeriaid yn ddiogel.
Mae cyfarfod y tu allan yn fwy diogel na’r tu mewn – gwnewch y gorau o’n traethau hardd, parciau a llwybrau hawliau tramwy cyhoeddus.
Gadewch awyr iach i mewn i fannau dan do.
Ewch i gael eich profi a hunan-ynyswch, hyd yn oed ar gyfer symptomau ysgafn. Er mwyn archebu prawf, ewch i https://www.gov.uk/get-coronavirus-test neu ffoniwch 119.
Mae brechiadau bellach ar gael i bob person 16-17 oed. Mae mwy o wybodaeth am glinigau cerdded i mewn ar gael yma: https://hduhb.nhs.wales/healthcare/covid-19-information/covid-19-vaccination-programme/mass-vaccination-centres/
Mae pawb angen cyfle i ailymuno â ffrindiau a theulu neu gael ychydig o orffwys a seibiant; gall yr holl sefyllfaoedd hyn gynnwys cael diod neu ddau i ymlacio a mwynhau. Nid yw Covid yn cael seibiant dim ond oherwydd eich bod chi’n cael un. Cadwch eich hun, eich teulu, eich ffrindiau a’ch cydweithwyr yn ddiogel.
More Stories
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant
Yn eisiau! Ffermwr brwd, galluog a chymwys, wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, ar gyfer cyfle i ffermio cyfran yng Ngorllewin Cymru
Dros 1500 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o £161m