04/24/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Mae amnest gwastraff yn cael ei gynnal i breswylwyr sy’n byw yn Llanymddyfri a’r ardal gyfagos.

Mae’n cael ei gynnal ar safle mart Llanymddyfri ddydd Sadwrn, 4 Mai rhwng 8am a 12pm.

Gellir mynd â’r rhan fwyaf o fathau o wastraff cartref yno, gan gynnwys celfi, carpedi a matresi diangen, eitemau trydanol megis oergelloedd/rhewgelloedd a setiau teledu a gwastraff gardd. Hefyd, mae modd cael gwared â hyd at bedwar teiar; fodd bynnag, ni dderbynnir teiars tractorau na theiars lorïau.

Ni dderbynnir gwastraff peryglus megis paent, tiwbiau fflworoleuadau, batris, cemegion, poteli nwy, asbestos, na chwaith wydr, gwastraff masnach, gwastraff adeiladu a gwastraff amaethyddol.

Dylai preswylwyr ddod â phrawf o’u cyfeiriad megis bil y dreth gyngor neu fil cyfleustodau.

Cynhelir amnestau gwastraff drwy gydol y flwyddyn yn Llanymddyfri, Llanybydder a Chastellnewydd Emlyn i helpu pobl nad ydynt yn byw ger canolfan ailgylchu gwastraff cartref i waredu eu gwastraff.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Mae hwn yn gyfle ardderchog i bobl ailgylchu eu gwastraff diangen. Rydym yn gobeithio hefyd y bydd yr amnestau gwastraff yn helpu i leihau tipio anghyfreithlon.”

%d bloggers like this: