04/20/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Amser gwneud cais am y rownd diweddaraf o arian i drawsnewid trefi ledled Cymru

MAE Llywodraeth Cymru yn annog awdurdodau lleol i wneud cais am ei rownd
diweddaraf o gyllid benthyciadau Trawsnewid Trefi.

Mae modd defnyddio’r cyllid, sydd werth £5m, i adfywio canol trefi drwy
ddod ag adeiladau gwag yn ôl yn fyw.

Mae’r cynllun, sydd eisoes wedi dyrannu mwy na £67m ers 2014, yn
caniatáu i gynghorau gefnogi prosiectau sy’n helpu cynhyrchu nifer yr
ymwelwyr i ganol trefi a helpu i gefnogi busnesau lleol.

Mae’r cynllun bellach ar agor ar gyfer ceisiadau ac yn dod i ben ar 02
Tachwedd.

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James:

“Mae ein rhaglen trawsnewid trefi yn parhau i sicrhau canlyniadau
gwych yn ein hymrwymiad a’n huchelgais i adfywio canol trefi ledled
Cymru, gan eu rhoi wrth galon popeth a wnawn.

“Rwy’n edrych ymlaen at weld sut mae’r arian hwn yn cael ei
ddefnyddio yng nghanol trefi ar hyd a lled y wlad maes o law.”

Mae dau gynllun ym Mlaenau Gwent wedi elwa yn sgil rownd flaenorol o
gyllid Benthyciadau Trawsnewid Trefi gan gynnwys gwesty’r Railway yn
Abertyleri a Gwesty a Bwyty Tredegar Arms yn Nhredegar.

Mae’r Railway Hotel yn adeilad amlwg wedi’i leoli wrth borth y gogledd i
ganol y dref. Cafodd yr adeilad ei ddifrodi’n helaeth gan dân ym mis
Mawrth 2017 ac fe’i gwerthwyd wedyn mewn ocsiwn ym mis Gorffennaf 2017.

Roedd benthyciad Trawsnewid Trefi gwerth £200,000 ynghyd ag arian grant
yn galluogi’r perchennog i wneud gwaith adnewyddu helaeth yn cynnwys to
newydd, a gwaith mewnol i greu bar a bwyty modern ynghyd ag ystafell
ddigwyddiadau fawr sy’n gallu dal hyd at 200 o bobl.

Mae’r eiddo bellach yn gweithredu o dan yr enw Vamos by the River  ac
mae’n ddewis poblogaidd gyda thrigolion lleol.

Mae Gwesty a Thŷ bwyta’r Tredegar Arms yng nghanol tref Tredegar o fewn
ardal gadwraeth.

Cyn hynny bu’r eiddo’n ddiffaith am flynyddoedd lawer. Nawr, diolch i
fenthyciad Trawsnewid Trefi o £284,000, mae’r eiddo wedi ei adnewyddu i
safon uchel yn 2019 ac mae’n ganolbwynt i ganol y dref.

Mae’r gwaith adnewyddu wedi creu naw ystafell wely ensuite moethus ac un
swit o ystafelloedd, ynghyd ag ystafell i gynnal digwyddiadau,
cyfleusterau cynadledda a phriodasau.

Mae’r busnes wedi mynd o nerth i nerth ac yn cyflogi 10 aelod o staff
llawn amser a chadw tŷ.

Mae’n darparu llety sy’n denu twristiaeth lleol i’r ardal ac sy’n
cefnogi busnesau eraill canol trefi.

Dywedodd y Cynghorydd John Morgan, Aelod Gweithredol Cyngor Cyllido
Lleoedd Ac Adfywio Cyngor Blaenau Gwent:

“Rydym wedi ymrwymo i weithio i fynd i’r afael â’r heriau economaidd
sy’n wynebu ein cymunedau a’n busnesau ar hyn o bryd ac rydym yn
awyddus i adeiladu ar y llwyddiannau diweddar rydym wedi’u cael wrth
gefnogi canol ein trefi i adfywio.

“Mae wedi bod yn wych gweithio mewn partneriaeth gyda rhaglen
Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru ac yn enwedig y cynllun
Benthyciadau Canol Trefi, sydd wedi golygu ein bod yn gweithio gyda
sawl perchennog busnes lleol i ddefnyddio nifer sylweddol o eiddo
unwaith eto a’u hadfywio er budd economaidd yr ardal leol; y bobl sy’n
byw yn ein cymunedau ac i greu cyfleoedd gwaith.

“Mae gennym gynlluniau cyffrous o dan y rhaglen Trawsnewid Trefi i
sicrhau bod canol ein trefi yn addas i’r diben ac yn apelio at
ddefnyddwyr, wrth i ni weithio i daclo amddifadedd economaidd a chreu
cyfleoedd economaidd pellach i’n cymunedau.”

 

%d bloggers like this: