04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Angen cyn gweithwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gweithwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol y dyfodol i helpu Cymru ymateb i Coronafeirws

MAE Prif Swyddog Meddygol Cymru, y Prif Swyddog Nyrsio a’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio wedi apelio ar eu cydweithwyr, i gofrestru i gefnogi’r rhai sy’n cael eu heffeithio.

Bydd myfyrwyr blwyddyn olaf hefyd yn cael cynnig gwaith yn y GIG i helpu i roi hwb i’r gweithlu dros y misoedd nesaf.

Dywedodd y Prif Swyddog Nyrsio, Jean White:

Mae hwn yn gyfnod eithriadol sy’n gofyn am fesurau eithriadol fel ymateb i anghenion iechyd pobl Cymru.

Rwy’n apelio ar bob gweithiwr iechyd proffesiynol sy’n gallu helpu drwy fod ar gael – mae ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol eich angen chi ac mae Cymru eich angen chi.

Dywedodd y Prif Swyddog Meddygol, Dr Frank Atherton:

Fe hoffwn i roi sicrwydd i staff GIG Cymru a phobl Cymru ein bod ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol yn ystod y cyfnod eithriadol heriol yma.

Mae ein gwasanaeth iechyd ni, a’n gweithwyr iechyd rhagorol, angen yr holl gefnogaeth a help posib. Mae iechyd ein cenedl ni’n dibynnu ar hyn.

Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio Llywodraeth Cymru, Albert Heaney:

Rydw i eisiau rhoi sicrwydd i’n sector gofal cymdeithasol ymroddedig ni ein bod ni’n gweithio gyda’n partneriaid allweddol i sicrhau ein bod yn gwarchod ein staff gofal cymdeithasol rheng flaen, sy’n chwarae rhan hanfodol mewn cefnogi a gofalu am y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas ni.

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru, wedi ysgrifennu at y gweithlu a’u cyflogwyr i amlinellu’r mesurau mae’n eu rhoi ar waith, gan gynnwys sut bydd yn cofrestru’r rhai sy’n cynnig eu profiad amhrisiadwy i ddychwelyd a chynorthwyo gyda’r ymdrech hon ar y cyd.

Rydyn ni eisiau eich croesawu chi yn ôl i’r gorlan.

Mae’r cynlluniau’n rhan o waith helaeth i baratoi’r GIG a’r sector gofal cymdeithasol i allu darparu gofal arbenigol ar gyfer effeithiau helaeth tebygol y pandemig presennol.

Mae’r rhai sydd wedi gadael ac ymddeol yn ystod y tair blynedd ddiwethaf yn derbyn llythyr yn gofyn iddynt ailgofrestru gyda’u cyrff perthnasol. Byddant yn cael eu harolygu o ran y math o rôl y gallant ei chwblhau a faint o amser y gallant ei ymrwymo.

Bydd yr holl staff sy’n dychwelyd yn gallu ‘optio i mewn’ i gofrestru i lenwi swyddogaethau clinigol ac anghlinigol amrywiol ar draws y GIG a’r sector gofal cymdeithasol, yn seiliedig ar eu sgiliau a’u hamser ers rhoi’r gorau i ymarfer.

Eisoes mae mwy na 5,000 o lythyrau wedi cael eu hanfon at bobl sydd wedi ymddeol o sawl rôl.

Hefyd mae Llywodraeth Cymru yn edrych ar ffyrdd o wneud defnydd o fyfyrwyr sy’n awyddus i gyfrannu. Mae myfyrwyr nyrsio, myfyrwyr gwaith cymdeithasol a myfyrwyr meddygol yn eu blwyddyn olaf i gyd yn cael cynnig cyfle i weithio dros dro, gyda chyflog llawn, i roi hwb i’r rheng flaen.

Bydd y rhai sy’n ymuno’n cael cyflwyniad llawn a hyfforddiant.

%d bloggers like this: