04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Annog busnesau i gymeryd ran yn arolwg adferiad economaidd Merthyr

WRTH i siopau ailagor ledled Cymru, mae busnesau Merthyr Tudful yn cael eu hannog i gyfranogi mewn arolwg a fydd yn cynorthwyo’r Cyngor i’w cynorthwyo hwy.

Bwriad yr Ymgynghoriad Gweledigaeth Economaidd a’r Cynllun Adfer ar gyfer y Fwrdeistref Sirol yw canfod pa effaith y mae’r pandemig wedi ei gael ar fusnesau, pa gymorth sydd ei angen arnynt o hyd a pha gamau y maen’t wedi eu cymryd neu y gallant eu cymryd er mwyn arallgyfeirio a sicrhau eu ffyniant masnachol yn y dyfodol.

Meddai Chris Long, Pennaeth Adfywio a Thai:

“Mae COVID-19 wedi bod yn ergyd farwol i nifer o’n busnesau ond maent wedi dangos gwydnwch a pharodrwydd i addasu er mwyn ymdrin â’r heriau,”

“Mae Swyddogion Adfywio a Refeniwiau a Budd-daliadau’r Cyngor wedi cynorthwyo busnesau i sicrhau dros £30 miliwn o gymorth gan Lywodraeth Cymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys grantiau i’w cynorthwyo i arallgyfeirio eu cynnig.

“Bydd y cynllun 15 mlynedd nid yn unig yn gymorth i’w hadferiad ond bydd hefyd yn darparu’r ffocws hirdymor sydd ei angen er mwyn i’r economi dyfu a bod o fudd i’n preswylwyr, ein cymunedau a’n busnesau. Byddem yn ddiolchgar iawn i dderbyn cymaint o adborth â phosib.”

Mae amcanion y cynllun yn cynnwys:

Sefydlu Bwrdd Adfer Economaidd; sefydlu Partneriaeth Fusnes, Addysg a Hyfforddiant (PFAaH); parhau i gydlynu cymorth busnes er mwyn cynorthwyo â chynaliadwyedd busnesau lleol, a hefyd datblygu cyfleoedd i alluogi plant a phobl ifanc i gael profiad o gyfleoedd cyflogaeth ehangach trwy bartneriaeth.

Mae’r Cyngor yn gweithio ag ymgynghorwyr cynllunio a dylunio, The Urbanists ac ymgynghorwyr economaidd, The Means er mwyn datblygu’r cynllun.

 

%d bloggers like this: