03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Annogir busnesau baratoi ar gyfer ap COVID-19 y GIG

MAE busnesau ledled fel tafarndai, bwytai, salonau trin gwallt a sinemâu, yn cael eu hannog i arddangos posteri cod QR y GIG yn eu mynedfeydd, fel bod cwsmeriaid sydd wedi lawrlwytho ap COVID-19 newydd y GIG yn gallu defnyddio eu ffonau clyfar i gofrestru’n hawdd yn y lleoliadau hyn.

Daw’r cam cyn lansio ap COVID-19 y GIG ledled Cymru a Lloegr ddydd Iau 24 Medi.

Bydd cofrestru gyda’r ap yn galluogi pobl i gadw dyddiadur o’r lleoliadau maent wedi ymweld â hwy, a fydd yn cael eu cadw’n ddiogel yn yr ap. Os bydd achosion o COVID-19 yn gysylltiedig â’u hymweliad, bydd defnyddwyr yn cael neges rhybudd gynnar gan y GIG. Os byddant yn cael prawf positif ar gyfer COVID-19, bydd pobl yn gallu defnyddio’r dyddiadur i ddweud wrth dimau olrhain cysylltiadau ble maent wedi bod, gan helpu i reoli COVID-19 a diogelu pobl eraill.

Gyda nifer yr achosion o’r coronafeirws yn codi yn y DU yn ystod yr wythnosau diwethaf mae’n hanfodol bod busnesau’n gwneud popeth o fewn eu gallu i ddiogelu eu cwsmeriaid a rheoli lledaeniad y feirws. Mae cod QR y GIG a’r swyddogaeth gofrestru yn ychwanegol at y mesurau presennol. Bydd angen i leoliadau yng Nghymru y mae’n ofynnol yn gyfreithiol iddynt gasglu a chadw cofnod o ymwelwyr wneud hynny o hyd.

Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog Iechyd Cymru:

“Mae lansio ap COVID-19 y GIG yn rhan bwysig o’r ymateb i’r coronafeirws, gan gefnogi rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu y GIG yng Nghymru. Gweithio ar y cyd yng Nghymru a Lloegr yw’r opsiwn mwyaf ymarferol yma, gan ein bod yn gwybod bod llawer o symud ar draws ein ffin gyffredin. Mae’n gwneud synnwyr defnyddio’r un ap, gan weithio yn yr un ffordd yn union, waeth pa wlad rydych chi ynddi.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio’n agos gyda thîm Apiau’r GIG i sicrhau bod yr ap yn hawdd ei ddefnyddio ac yn rhoi’r cyngor a’r arweiniad cywir i bobl, wedi’u teilwra i’r wlad maent yn byw ynddi. Rwyf wir yn annog pobl yng Nghymru i lawrlwytho a defnyddio’r ap pan fydd yn cael ei lansio.

“Po fwyaf o bobl sy’n lawrlwytho ac yn defnyddio ap COVID-19 y GIG, y mwyaf y bydd yn ein helpu ni i atal COVID-19 rhag lledaenu.”

Dywedodd Matt Hancock, Ysgrifennydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth y DU:

“Gyda’r achosion o’r coronafeirws yn codi, rhaid i ni ddefnyddio pob adnodd sydd ar gael i ni i reoli lledaeniad y feirws, gan gynnwys technoleg arloesol. Mae lansio’r ap yn ddiweddarach y mis hwn ledled Cymru a Lloegr yn foment nodedig a bydd yn sicr o gymorth i’n gallu i reoli’r feirws ar adeg dyngedfennol.

“Rydym nawr yn annog busnesau i lawrlwytho posteri ar gyfer eu hadeiladau cyn lansio ap COVID-19 y GIG. Bydd hyn yn galluogi’r cyhoedd i gofrestru’n hwylus mewn lleoliadau gan ddefnyddio’r ap pan gaiff ei lansio.

“Mae’n hanfodol ein bod yn defnyddio system Profi ac Olrhain y GIG i gyrraedd cymaint o bobl â phosibl i atal achosion ac i atal y feirws hwn. Bydd y swyddogaeth hon yn gwneud hyn yn syml ac yn hawdd fel ein bod yn gallu cadw’r feirws yma dan reolaeth.”

Mae gan yr ap amrywiaeth o nodweddion ychwanegol, gwell a fydd yn helpu i leihau risg bersonol a chyhoeddus o COVID-19 fel rhan o’r gwasanaethau profi ac olrhain ehangach :-

Hysbysiad risg: rhoi gwybod i ddefnyddwyr beth yw lefel risg y coronafeirws yn ardal eu cod post;

Cofrestru gyda QR: rhoi gwybod i ddefnyddwyr os ydynt wedi ymweld â lleoliad yn ddiweddar lle gallent fod wedi dod i gysylltiad â rhywun sy’n profi’n bositif gyda COVID-19 yn ddiweddarach;

Gwirio symptomau: galluogi defnyddwyr i wirio a oes ganddynt symptomau’r coronafeirws a gweld a oes angen iddynt archebu prawf am ddim – y cyfan mewn un lle;

Prawf: helpu defnyddwyr i archebu prawf am ddim drwy’r ap; a hefyd

Cyfrif dyddiau ynysu: os dywedir wrth ddefnyddiwr bod rhaid iddo hunanynysu, bydd amserydd yn helpu i gyfrif y cyfnod hwnnw a bydd cyngor perthnasol yn cael ei ddarparu.

Dim ond un sector sy’n cael ei annog i ddefnyddio system y GIG yw busnesau. Bydd prifysgolion, ysbytai, safleoedd hamdden, canolfannau dinesig a llyfrgelloedd yn cael eu hannog hefyd i arddangos posteri mewn mannau cymunedol fel caffis.

Dywedodd Kate Nicholls, Prif Swyddog Gweithredol Lletygarwch y DU:

“Prif flaenoriaeth lletygarwch yw diogelu iechyd ein cwsmeriaid a’n staff ond mae dyhead hefyd i osgoi dychwelyd i gyfyngiadau symud a cholli masnach. Mae’n hanfodol bod gwybodaeth yn cael ei chasglu a’i defnyddio’n effeithiol ac yn ddiogel.

“Byddem yn annog pob busnes lletygarwch i gefnogi cyflwyno’r ap a lawrlwytho eu posteri QR i helpu i drechu’r feirws.”

 

%d bloggers like this: