03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Annogir trigolion roi gwybod am droseddau tybaco anghyfreithlon i Crimestoppers

MAE trigolion traws Cymru sy’n amau bod rhywun yn gwerthu tybaco anghyfreithlon yn gallu rhoi gwybod amdano’n ddienw trwy ymgyrch newydd.

Mae Safonau Masnach Cymru wedi ymuno â’r elusen Crimestoppers i ddarparu gwasanaeth, sy’n galluogi aelodau’r cyhoedd i roi gwybodaeth gwerthfawr yn ddienw i helpu i gadw cymunedau’n ddiogel ac yn iach.

Un o bum mater yw hwn y mae Safonau Masnach Cymru a Crimestoppers yn cydweithio arnynt. Maent am annog y cyhoedd i ddarparu gwybodaeth am bryderon sydd ganddynt 100 y cant yn ddi-enw.  Os oes gennych wybodaeth ar unrhyw rai o’r canlynol, gallwch ddweud wrthym yr hyn rydych chi’n gwybod:

Troseddau carreg y drws; Gwerthu cynnyrch â chyfyngiadau oedran; Nwyddau ffug a Masnachwyr diegwyddor.

Dywedodd Helen Picton, Cadeirydd Safonau Masnach Cymru:

“Rydym yn falch o fod yn cydweithio gyda Crimestoppers Cymru a rhoi modd i aelodau’r cyhoedd roi gwybod am y troseddau hyn yn ddienw.

“Mae gwerthu tybaco anghyfreithlon yn achosi niwed i gymunedau ar draws Cymru ac yn cefnogi troseddau cyfundrefnol ac yn tynnu arian o wasanaethau hanfodol. Mae hefyd yn annog ysmygwyr i barhau i ysmygu ac yn ysgogi plant i roi cynnig arni.

“Os ydych chi’n meddwl bod rhywun yn gwerthu tybaco anghyfreithlon, gallwch chi helpu i roi pen ar y niwed y mae’n ei achosi trwy hysbysu Crimestoppers. Gall eich gwybodaeth helpu i gadw cymunedau ledled Cymru’n ddiogel ac yn iach.”

 

%d bloggers like this: