04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Apêl frys i Lywodraeth Cymru gan weithwyr GIG Cymru

MAE Mil o weithwyr Gofal Iechyd wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn apelio am gymorth ar frys tra yn brwydo yn erbyn Coronafeirws

”Rydym yn weithwyr gofal iechyd sy’n brwydro yn erbyn y pandemig coronafirws. Dyma argyfwng dynol digynsail sy’n rhoi straen enfawr ar GIG Cymru a’r holl staff rheng flaen. Rydym yn barod i roi pob dim i achub bywydau, ond ar hyn o bryd, nid yw Llywodraeth y DU yn gwneud digon i atal y firws rhag lledaenu na rheoli’r pwysau ar y gwasanaeth iechyd.

Ar hyn o bryd nid yw gweithwyr rheng flaen yn cael eu profi’n systematig am y firws, sy’n golygu nad oes gennym unrhyw ffordd o wybod pwy i’w ynysu er mwyn ei atal rhag lledaenu, gan gynnwys mewn ysbytai. Mae’r diffyg profi yn groes i ganllawiau Sefydliad Iechyd y Byd ac yn rhwystr sylfaenol os ydym am atal lledaeniad y firws a sicrhau’r cyflenwad uchaf posib i gleifion a staff.

Rydym yn croesawu’r cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno profion i weithwyr gofal iechyd proffesiynol. Fodd bynnag, dyma’r cam cyntaf yn unig y mae angen ei weithredu’n gyflym yn awr ac yna ehangu’n aruthrol arno: ni allwn fforddio hunanfoddhad, a rhaid i’n brwydr yn erbyn y firws hwn fod yn ddi-baid.

Yn ogystal, nid ydym yn cael offer amddiffyn personol priodol ar hyn o bryd i’n hatal rhag cael ein heintio tra ein bod yn gweithio. Po fwyaf o feddygon sy’n mynd yn sâl ac sy’n gorfod ynysu, yr hiraf y bydd yn ei gymryd i reoli lledaeniad y firws hwn.

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i fentro a gweithredu’r camau brys canlynol ar unwaith i gefnogi gweithwyr rheng flaen yn y gwasanaeth iechyd a thu hwnt:

  • Sefydlu profion ac olrhain torfol i holl weithwyr y GIG a’u teuluoedd, yn ogystal â staff megis gweithwyr gofal sy’n gweithio mewn gwasanaethau rheng flaen eraill gyda grwpiau sy’n agored i niwed.
  • Cyflenwi offer amddiffyn personol ddigonol ar frys ar gyfer holl staff y GIG ac eraill sy’n gweithio ag achosion posib, o feddygon i ofalwyr a phorthorion.
  • Cyflwyno profion rheolaidd i bob claf mewnol cyfredol a newydd.
  • Creu llwybr derbyn safonol, cytunedig ar gyfer asesu a phrofi unrhyw un sy’n ymddangos â symptomau anadlol / COVID-19 ym mhob gwasanaeth meddygol ac arbenigedd rheng flaen, nid meddygon teulu ac adrannau damweiniau ac achosion brys yn unig (h.y. gwasanaethau iechyd meddwl, pediatreg, radiograffeg, ac ati).
  • Sefydlu gwaharddiad ar unwaith ar ymweliadau ag ysbytai nad ydynt yn hanfodol.
  • Sicrhau bod staff y GIG yn cael eu cynghori ar weithio’n ddiogel ac yn gallu cymryd cyfnodau gorffwys digonol i osgoi gorflinder.
  • Atal ffioedd llety ysbyty ar unwaith ar gyfer staff.

Mae gennym hefyd brinder peryglus o welyau Unedau Gofal Dwys yng Nghymru, yn ogystal â diffyg awyriaduron sydd eu hangen arnom i drin y sâl. Wrth i’r argyfwng ddwysáu, ddaw’r prinder presennol yn anghynaladwy i staff, cleifion a’r gwasanaeth iechyd ei hun. Felly rydym hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

  • Gymryd yr holl gyfleusterau gofal iechyd preifat a gofal iechyd eraill ar unwaith fel y gellir eu defnyddio mewn i ddwylo cyhoeddus er mwyn trin cleifion (fel y mae Llywodraeth Sbaen wedi’i wneud yn ddiweddar).
  • Archebu a/neu gynhyrchu awyriaduron newydd ar raddfa ddiwydiannol ar frys.
  • Drafftio gweithwyr gofal iechyd sydd â phrofiad o weithio mewn Unedau Gofal Dwys mewn i ysbytai.
  • Cynhyrchu strategaeth frys ar gyfer recriwtio staff a hyfforddiant cyflym, gan basio deddfwriaeth frys os oes angen.

Wrth symud ymlaen, mae angen i Lywodraeth Cymru weithio ar y cyd â staff rheng flaen os ydym am drechu’r firws a dianc rhag yr argyfwng.

Os bydd y gofynion hyn yn gofyn am gyllid ychwanegol ar unwaith gan lywodraeth y DU, byddwn yn eich cefnogi i frwydro drosto. Nid yw distawrwydd yn opsiwn bellach.”

%d bloggers like this: