04/18/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Archifau Powys yn cael llawysgrif brin am tir a brynwyd yn Pennsylvania

YN ddiweddar, mae Archifau Powys wedi prynu llawysgrif brin sy’n  dogfennu tir a  brynwyd yn Pennsylvania yn yr ail ganrif ar  bymtheg.

Mae’r cytundeb dyddiedig 1682 yn cofnodi gwerthiant dau gan erw o dir yn Pennsylvania gan Richard Davies, Crynwr amlwg o’r Cloddiau, ger y Trallwng, i Margaret James, hen ferch o blwyf yr Eglwys Newydd, Sir Faesyfed.

Prynwyd y ddogfen gyda chymorth Clwb Powysland, y gymdeithas  hanesyddol ar  gyfer sir  Drefaldwyn a Chymdeithas Hanes Teulu  Powys.

Dywedodd David Hall, Cadeirydd Clwb Powysland:

“Mae llawysgrifau prin o’r math hwn yn bwysig  ac yn  cyfrannu at dreftadaeth a diwylliant  cyfoethog y  sir.  Mae Clwb Powysland  yn  hyrwyddo ac  yn cefnogi ymchwil hanesyddol, a bwriadwn gyhoeddi trawsgrifiad o drawsgludiad 1682  yn  ein  rhifyn nesaf o  Gasgliadau  Sir Drefaldwyn.   Gobeithiwn y bydd hyn yn nnog  mwy  o  ymchwil  am  deuluoedd  lleol a  ymfudodd  i America yn yr ail ganrif ar bymtheg.”

Meddai Phil Bufton, Cadeirydd Cymdeithas Hanes Teulu  Powys:

“Gall llawer o deuluoedd yn America olrhain eu gwreiddiau i hen Siroedd Maesyfed a Threfaldwyn, ac mae’r llawysgrif hon yn darparu tystiolaeth uniongyrchol o bobl leol yn prynu tir ac yn ymfudo i Pennsylvania bron i 340 mlynedd yn ôl. Mae Cymdeithas Hanes Teulu Powys yn croesawu aelodau newydd, a gallwn roi cyngor am  wahanol ffynonellau ar gyfer ymchwil hanes teuluol.”

Dywedodd y Cynghorydd Rachel Powell, Aelod Portffolio Cyngor Sir Powys dros Bobl Ifanc a Diwylliant:

“Rydym yn hynod falch ein bod wedi llwyddo i sicrhau’r llawysgrif bwysig hon ar gyfer Archifau Powys ac rydym am ddiolch i Glwb Powysland a Chymdeithas Hanes Teulu Powys am ein helpu i’w  brynu. Mae croeso mawr i drigolion Powys ac ymwelwyr â’r sir ymweld â’r gwasanaeth yn Llandrindod a gweld y rhain a llawer o ddogfennau unigryw eraill a allai helpu gydag ymchwil hanes teuluol a lleol.”

Bu nifer o bobl Gymreig a fyddai’n ymfudo yn y dyfodol, gan sefydlu Drefgordd Maesyfed i bob pwrpas, yn dystion i’r cytundeb, a chofnodwyd efo yn ddiweddarach yn y Gofrestrfa yn Philadelphia o dan lofnod Thomas Lloyd, Meistr y Rholiau a Dirprwy Lywodraethwr i William Penn. Roedd Lloyd hefyd yn ddyn o Sir Drefaldwyn, yn fab i Charles Lloyd o Dolobran. Priododd Margaret James wythnos yn ddiweddarach ac allfudodd hithau hefyd i Pennsylvania.

Roedd Crynwyr yng Nghymru’r ail ganrif ar bymtheg yn wynebu’r carchar a dirwyon am fethu â chymryd y Llw Teyrngarwch ac am arddel eu ffydd yn agored. Oherwydd hyn, ceisiodd llawer ohonynt gartref newydd yn yr Unol Daleithiau. Fodd bynnag, oherwydd bod Crynwyr wedi dioddef erledigaeth yno hefyd, aeth William Penn a Chrynwyr Prydeinig eraill ati i brynu rhandiroedd, gan brynu rhan fawr o’r hyn sydd bellach yn New Jersey. Tref Maesyfed yw un o’r bwrdeistrefi hynaf yn Pennsylvania ac fe’i  sefydlwyd fel rhan o’r rhandir Gymreig.

%d bloggers like this: