MAE’R Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters, wedi cyhoeddi heddiw y bydd comisiwn trafnidiaeth newydd yn cael ei sefydlu a fydd yn datblygu cyfres o gynlluniau trafnidiaeth ar gyfer gogledd Cymru.
Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru yn dilyn model y comisiwn a sefydlwyd yn dilyn canslo ffordd liniaru’r M4 yn Ne-ddwyrain Cymru a bydd hefyd yn cael ei arwain gan yr Arglwydd Terry Burns, cyn Ysgrifennydd Parhaol Trysorlys y DU.
Daw’r cyhoeddiad yn dilyn argymhellion gan Banel Adolygu Ffyrdd Llywodraeth Cymru a’r Adolygiad o Gysylltedd yr Undeb a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Gadeirydd Network Rail, Syr Peter Hendy, ar gyfer adolygiad ‘aml-foddol’ o goridor yr A55.
Bydd yr adolygiad blwyddyn o hyd yn datblygu argymhellion ar gyfer teithio ar y ffyrdd, y rheilffyrdd, bysiau a theithio llesol ar draws pob rhan o ogledd Cymru.
Mae’r cam hwn yn dilyn cyngor y Panel Adolygu Ffyrdd i ganslo’r cynlluniau presennol ar gyfer gwella Cyffordd 14/15 a 16/16A yr A55, y mae Gweinidogion wedi cytuno arno. Cytunwyd hefyd pa gynlluniau eraill y bydd y Panel yn eu hystyried fel rhan o’u hadroddiad terfynol y bwriedir ei gyhoeddi yr haf hwn.
Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd:
“Os ydym o ddifrif am wynebu’r Argyfwng Hinsawdd, mae’n rhaid i ni fod yn barod i wneud pethau’n wahanol, ac yn bwysicach na dim gynnig dewisiadau eraill ac ymarferol i bobl ar draws gogledd Cymru yn lle defnyddio eu ceir ar gyfer y rhan fwyaf o deithiau.
“Yn ogystal ag edrych ar goridor yr A55, bydd Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru hefyd yn edrych ar sut y gallwn wella opsiynau trafnidiaeth gynaliadwy mewn ardaloedd gwledig. Bydd angen buddsoddi rhagor mewn trafnidiaeth gyhoeddus ac rwy’n falch iawn bod yr Arglwydd Burns wedi cytuno i arwain panel o arbenigwyr lleol i lunio rhestr fanwl o brosiectau y bydd eu hangen i wireddu hyn.
“Nid yw hyn yn golygu na fydd ffyrdd newydd yn cael eu hadeiladu, ond mae’n golygu mwy o bwyslais ar ofalu am y ffyrdd sydd gennym eisoes yn ogystal â buddsoddi mewn opsiynau eraill ac ymarferol i roi dewis gwirioneddol i bobl.”
More Stories
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant
Yn eisiau! Ffermwr brwd, galluog a chymwys, wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, ar gyfer cyfle i ffermio cyfran yng Ngorllewin Cymru
Dros 1500 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o £161m