04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Arglwydd Faer clywed bod disgyblion YG Gorseinon yn mwynhau bywyd yr ysgol newydd

MAE Arglwydd Faer Abertawe wedi clywed bod disgyblion a staff yn Ysgol Gynradd Gorseinon wedi ymgartrefu yn eu hysgol newydd ac yn dwlu ar fywyd yno.

Ymwelodd y Cyng. Mark Child â’r ysgol yr wythnos hon i agor y datblygiad gwerth £6.9m yn swyddogol.

Oherwydd cyfyngiadau cyfredol, cynhaliwyd y seremoni lle cadwyd pellter cymdeithasol ar ôl i ddisgyblion adael am y diwrnod, ond roedd y plant wedi recordio fideo yn esbonio mor hapus y maent a chymaint y maen nhw’n mwynhau eu hamgylchoedd newydd.

Dywedodd y Pennaeth Jason Dodd fod symud i’r adeilad a adeiladwyd at y diben sydd wedi dod â’r dosbarthiadau babanod ac iau ynghyd ar un safle, wedi trawsnewid pethau.

Meddai:

“Mae pawb mor falch o fod yma yn yr adeilad newydd gwych hwn. Mae ein holl staff yn mwynhau addysgu yn yr ysgol hon ac mae’r plant yn dwlu ar ddysgu yn yr ysgol.

“Rydym wedi aros cryn dipyn o amser amdani, ond mae’n llwyddiant ysgubol a hoffwn ddiolch i bawb a fu’n rhan i sicrhau bod hyn yn digwydd.”

Mae’n rhan o fuddsoddiad gwerth £150m mewn adeiladau ysgol gwell a newydd yn Abertawe a ariennir ar y cyd gan Gyngor Abertawe a Llywodraeth Cymru dan rhaglen Ysgolion a Cholegau’r 21ain Ganrif – y buddsoddiad mwyaf mewn addysg a welwyd erioed gan y ddinas.

Aethpwyd â’r Arglwydd Faer ar daith o gwmpas yr ysgol gyda chynrychiolwyr y contractwyr lleol Andrew Scott Ltd a gwblhaodd y prosiect yn ddiogel ac mewn pryd ar gyfer y flwyddyn academaidd hon wrth weithio o fewn canllawiau COVID llym.

Meddai’r Cynghorydd Child

“Mae hwn yn fuddsoddiad gwych ym mhobl ifanc Gorseinon ac roedd yn hyfryd gweld y negeseuon gan y disgyblion yn esbonio mor falch yr oeddent i fod yma.

“Mae’r ysgol newydd yn rhyfeddol, mae cymaint o le yma ac mae’n lliwgar ac mae’n teimlo’n lle cyfeillgar a bywiog. Roedd yn wych clywed cymaint y mae disgyblion, staff, rhieni a’r gymuned ehangach eisoes yn ei gwerthfawrogi. Mae’n ased gwirioneddol, ac yn gwbl wahanol i hen adeiladau Fictoraidd anaddas blaenorol yr ysgol.”

Anfonodd Gweinidog Addysg Cymru, Kirsty Williams, neges a chwaraewyd yn yr agoriad swyddogol.

Meddai, “Rwyf wrth fy modd ein bod, drwy ein rhaglen Ysgolion a Cholegau’r 21ain Ganrif, wedi gallu cefnogi’r gwaith o gyflwyno adeilad newydd i Ysgol Gynradd Gorseinon drwy fuddsoddiad o £7 miliwn.

“Mae wedi bod yn ymdrech tîm wirioneddol a dylai’r awdurdod lleol, y gymuned a’r staff gweithgar fod yn falch o’r amgylchedd dysgu ysbrydoledig maent wedi’i greu yn Ysgol Gynradd Gorseinon.”

%d bloggers like this: